Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu a'ch Ymddygiad Eich Hun

I'r tîm, y rheolwr llinell yw'r person unigol a fydd yn effeithio fwyaf ar forâl a chymhelliant, felly mae eich sgiliau rheoli pobl yn hynod bwysig. Weithiau gall goruchwylwyr a rheolwyr llinell - sydd fel arfer wedi cael dyrchafiad oherwydd perfformiad uchel yn y swydd - deimlo fod yr agweddau rheoli pobl eu rôl newydd yn hynod anodd, ac efallai y byddant angen rhywfaint o help. Mae hyd yn oed rheolwyr llinell mwy profiadol yn dod ar draws sefyllfaoedd anodd a gallant fod angen rhywfaint o help ar brydiau.
 

Gofynnwch am hyfforddiant mewn rheoli pobl, yn enwedig os ydych chi'n rheolwr am y tro cyntaf neu erioed wedi cael unrhyw hyfforddiant o'r blaen.

Os ydych yn newydd i’r rôl, dewch o hyd i reolwr mwy profiadol y gwyddoch ei fod yn dda ym maes rheoli pobl, a gofynnwch a gewch chi ‘gyfeillio’ ag ef/hi. Os ydych chi'n brofiadol, cofiwch pa mor anodd oedd hi i chi pan wnaethoch chi gymryd eich rôl rheoli llinell gyntaf - cadwch lygad am reolwyr newydd a chynigiwch eu cefnogi.
 

Byddwch yn glir ynghylch ymddygiadau rheoli pobl y mae eich sefydliad yn eu disgwyl gennych chi.

Efallai y bydd canllaw, neu lasbrint, neu restr o gymwyseddau ymddygiadol gyda disgrifiadau. Os nad oes, gofynnwch i AD pa ymddygiadau y dylech eu mabwysiadu, a pha rai y dylech eu hosgoi.

Gofynnwch am hyfforddiant mewn technegau hyfforddi.

Mae rheolwyr sy'n ymgysylltu fel arfer yn mabwysiadu arddull hyfforddi gyda'u timau, gan gynnwys hyfforddi perfformwyr gwael i wella. Daw'r arddull hon yn naturiol i rai pobl, tra bydd angen i eraill ddysgu'r technegau. Gall rheolwyr y gwyddys eu bod yn hyfforddwyr da weithredu fel mentoriaid i eraill sy'n gymharol newydd i egwyddorion hyfforddi.

Hunanaseswch a chasglwch adborth am eich perfformiad fel rheolwr pobl.

Mae rhai Byrddau Iechyd yn defnyddio adborth 360 neu 180 gradd, gan alluogi rheolwyr i gael darlun crwn o'u perfformiad. Dewis arall yw defnyddio teclyn hunanasesu - naill ai ar gyfer eich hunan-fyfyrio eich hun, neu os ydych chi'n teimlo'n ddewr, i'w rannu gyda'ch rheolwr eich hun a/neu'ch tîm. A fyddai'ch tîm yn cytuno â'ch hunanasesiad? Gellir cyrchu holiadur hunanasesu27 yn seiliedig ar ymchwil IES ar gyfer rheolwyr llinell fel un o'r adnoddau.

Sicrhewch eich bod chi'n gwybod beth i'w wneud wrth fynd i'r afael â pherfformiad gwael ac ymddygiad gwael.

Mae hyn bob amser yn beth anodd i'w wneud, yn enwedig os nad yw'r sefyllfa'n gwella ar ôl y cam hyfforddi a bod angen defnyddio gweithdrefnau ffurfiol. Fodd bynnag, mae gweddill y tîm yn gwerthfawrogi mynd i'r afael â pherfformiad ac ymddygiad gwael yn y tîm, felly mae'n debygol o godi lefelau ymgysylltu yn gyffredinol. Dim ond ychydig o weithiau yn eu bywydau y bydd yn rhaid i lawer o reolwyr fynd â phobl trwy brosesau disgyblu ffurfiol, felly mae'n bwysig iawn gofyn am gefnogaeth gan AD ynghylch y polisïau a'r gweithdrefnau i'w defnyddio.

Byddwch yn hael gyda chanmoliaeth a chydnabyddiaeth.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio'n galed iawn, ac eisiau gwneud gwaith da. Ychydig iawn o ymdrech mae'n ei chymryd i roi canmoliaeth a chydnabyddiaeth am swydd sydd wedi'i chyflawni'n dda, ond caiff ei werthfawrogi'n fawr.

 

Dilynwch ni