Y brechlyn HPV a ddefnyddir yn rhaglen frechu'r GIG yw Gardasil 9 ac mae'n amddiffyn rhag 9 o'r mathau o HPV a all achosi canser a dafadennau gwenerol i'r rhan fwyaf o bobl drwy un dos yn unig.
Rhoddir rhestr gyflawn o gynhwysion y brechlyn Gardasil 9 yn y daflen wybodaeth i gleifion. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch.
Mae trosolwg pellach o'r brechlyn HPV ar gael ar NHS.UK a gallwch ddysgu mwy am gynhwysion y brechlyn yn Vaccine ingredients | Vaccine Knowledge Project
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.