Neidio i'r prif gynnwy

Symptomau'r frech goch, cymhlethdodau a sut mae'n lledaenu

Beth yw'r frech goch?

Mae'r frech goch yn salwch feirysol heintus iawn sy'n lledaenu trwy ddiferion bach o besychu neu disian. 

Gall aros yn yr aer neu ar arwynebau am hyd at ddwy awr, gan ei gwneud hi'n hawdd ei ddal mewn cartrefi, ysgolion, neu leoedd cyhoeddus. 

Mae'r frech goch yn fwy heintus na'r ffliw neu COVID-19. Ei R₀ (rhif atgenhedlu sylfaenol) yw 12–18, sy'n golygu y gall un person heintiedig ei lledaenu i hyd at 18 o bobl eraill mewn poblogaeth heb ei brechu. 

Hyd yn oed mewn gwledydd fel y DU - lle cafodd y frech goch ei dileu ar un adeg - gall gostyngiadau bach mewn cyfraddau brechu arwain at frigiad o achosion. 

 

Sut mae'r frech goch yn lledaenu 

Mae'r feirws yn cael ei ledaenu drwy: 

  • Diferion a gludir yn yr aer o besychu neu disian 
  • Arwynebau halogedig sy'n parhau i fod yn heintus am hyd at ddwy awr 
  • Cyswllt agos mewn cartrefi, ysgolion a mannau cyhoeddus 

Yn aml, mae achosion yn dechrau pan fydd rhywun sydd wedi'i heintio dramor yn mynd i mewn i gymuned lle mae nifer isel o bobl wedi cael y brechlyn MMR. 

 

Symptomau a chwrs y salwch 

Ar ôl dod i gysylltiad â'r feirws, mae symptomau fel arfer yn ymddangos ar ôl 10–12 diwrnod (amrediad 7–21 diwrnod). 

Arwyddion cynnar: 

  • Twymyn uchel, blinder, dim chwant bwyd 
  • Peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch neu ddyfrllyd 
  • Smotiau gwyn bach y tu mewn i'r geg (smotiau Koplik) 

Brech: 

  • Brech frowngoch, smotiog yn dechrau ar yr wyneb ac yn lledaenu i lawr y corff 
  • Heintus o bedwar diwrnod cyn y frech tan bedwar diwrnod ar ôl hynny 

 

Cymhlethdodau 

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn 7-10 diwrnod, gall y frech goch achosi cymhlethdodau difrifol neu angheuol, yn enwedig mewn: 

  • Plant ifanc 
  • Menywod beichiog 
  • Pobl â system imiwnedd wan 

Mae cymhlethdodau posibl yn cynnwys: 

  • Heintiau’r glust a cholli clyw 
  • Niwmonia (prif achos marwolaethau sy'n gysylltiedig â'r frech goch) 
  • Enseffalitis (llid yr ymennydd) 
  • Trawiadau 
  • Dolur rhydd a dadhydradu 
  • Risgiau beichiogrwydd fel gamesgoriad neu enedigaeth gynamserol 
  • Mewn achosion prin, marwolaeth 

Yn y DU, mae achosion o'r frech goch hefyd yn rhoi straen ar adnoddau'r GIG - gan arwain at ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys, absenoldebau staff, a chau wardiau dros dro. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni