Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn a allai arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i'r rhai sy'n cael eu heintio ac sydd heb eu brechu.
Er bod y frech goch yn gallu bod yn salwch ysgafn, mae ganddi'r potensial i achosi cymhlethdodau difrifol fel colli golwg, colli clyw, niwmonia a llid yr ymennydd. Mewn amgylchiadau eithafol, gall y frech goch fod yn angheuol.
Mae achosion diweddar o'r frech goch wedi digwydd ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru, a gallai mwy o achosion ddigwydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, gallwn arafu'r lledaeniad ac amddiffyn ein plant a ni ein hunain gyda brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).
Mae 2 ddos o’r brechlyn MMR yn hynod effeithiol a diogel, ac mae opsiynau heb gelatin ar gael. Fe'u rhoddir fel mater o drefn mewn meddygfeydd i blant sy'n 12 mis oed ac eto pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed - ond nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddal i fyny.**
Cysylltwch â'ch meddygfa yn uniongyrchol i drefnu eich apwyntiad brechu. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Mae cynnwys defnyddiol isod:
**Hyd at 31 Rhagfyr, 2025: Rhoddir y dos cyntaf o'r brechlyn MMR yn 12 mis oed, a rhoddir yr ail ddos yn 3 blwydd a 4 mis oed.
O 1 Ionawr, 2026:
Mae'r Amserlen Imiwneiddio Arferol Gyflawn ar gyfer Cymru ar gael ar ein gwefan yn: Amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru
Am fanylion pellach am y newidiadau hyn, gan gynnwys tabl sy'n amlinellu cymhwysedd ar gyfer MMR, ewch i: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio plant - Gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.