Mae Pantri Neuadd Llanrhymni yn gwasanaethu'r gymuned leol, gan dyfu a choginio eu bwyd eu hunain. Roedden nhw'n teimlo y byddai ychwanegu'r pantri yn helpu i ddod â mwy o bobl i'r cyfleuster a chreu mwy o ysbryd cymunedol ac annog pobl i ddod at ei gilydd.
Mae'n gweithredu fel model ar gyfer cefnogi teuluoedd ac aelwydydd i gael mynediad at wasanaeth bwyd da a gwneud i'w harian fynd ymhellach. Nid yw Pantri Neuadd Llanrhymni yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un - does dim ots a ydych chi'n gweithio neu beidio, wedi ymddeol neu'n ifanc. Os ydych chi'n teimlo bod yna adegau lle mae angen i’ch arian fynd ymhellach, mae'r gwasanaeth hwn ar eich cyfer chi.