Neidio i'r prif gynnwy

Pantri Bwyd Stryd Wyndham

Mae Pantri Bwyd Stryd Wyndham yn sefydliad aelodaeth sy'n cwmpasu Glan-yr-afon, Grangetown a Threganna. Am £5, mae pobl yn gallu ailgyflenwi eu pantri gyda bwyd o ansawdd da a bwydo eu teuluoedd am wythnos. Mae'r gymuned yn amrywiol ac yn gallu darparu ar gyfer pobl o wahanol gefndiroedd, gyda chig halal ar gael.

Maent yn anelu at leihau gwastraff bwyd. Mae tua 500kg o fwyd yn cael ei dderbyn bob wythnos gan Bantri Bwyd Stryd Wyndham a phrin iawn yw’r hyn nad yw'n cael ei ddefnyddio. Maent yn annog pawb, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol, i ddod i leihau gwastraff bwyd.

Dilynwch ni