Yn dilyn adolygiad i ymgymeriad Talebau Cychwyn Iach yn lleol, roedd yn amlwg bod ymwybyddiaeth o’r cynllun yn isel ymysg teuluoedd cymwys a llawer o’r staff rheng flaen sy’n eu cynorthwyo.
Felly, sefydlwyd partneriaeth rhwng Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd a Thîm Deieteg BIP Caerdydd a’r Fro a Bwyd Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o Gychwyn Iach a’r cynlluniau eraill sydd yn cynorthwyo teuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at ddeiet iachach, fel Prydau Ysgol am Ddim a Bwyd a Hwyl.
Datblygwyd pecyn ymwybyddiaeth i roi trosolwg i staff rheng flaen o’r cynlluniau bwyd amrywiol, pwy sydd yn gymwys a sut i gyfeirio teuluoedd.
Cyflwynwyd hyn i ddechrau fel gweithdy, ond i gyrraedd cynulleidfa ehangach, mae bellach ar gael fel pecyn rhyngweithiol ar-lein. Mae hyn wedi cael ei addasu hefyd i gynrychioli wybodaeth ar draws Cymru ar gyfer partneriaid mewn meysydd eraill sy’n dymuno cael mynediad at wybodaeth.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym wedi ategu’r pecyn hwn gyda mwy o fanylion am rai o’r prosiectau bwyd lleol sydd yn cynorthwyo teuluoedd ar incwm isel.
Am fwy o wybodaeth am y gwaith Budd-daliadau Bwyd, cysylltwch â Helen.Griffith5@wales.nhs.uk
Mae mwy o wybodaeth am y Cyrsiau Maeth sydd ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro ar gael yma
Cyrsiau – Sgiliau Maeth am Oes ®