Mae'r tudalennau hyn i'ch helpu i ddeall mwy am y gwaith y mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ei wneud ar alcohol.
Effaith alcohol ar iechyd a lles
Mae yfed alcohol yn gysylltiedig â risgiau o ddatblygu nifer o afiechydon anhrosglwyddadwy, fel clefyd yr afu a'r galon, yn ogystal â chyflyrau iechyd meddwl ac ymddygiadol fel iselder, gorbryder ac anhwylderau defnyddio alcohol1. Mae alcohol hefyd yn cynyddu'r risg o sawl math o ganser, gan gynnwys canser y fron, yr afu, y pen a'r gwddf, yr oesoffagws a'r colon a'r rhefr1. Nid oes unrhyw fath o yfed alcohol sy'n ddi-risg; mae hyd yn oed lefelau isel yn gysylltiedig â rhai risgiau a gall achosi niwed1.
Mae yfed alcohol mewn modd niweidiol hefyd yn cael effaith cymdeithasol a rhyng-genedlaethol ehangach, gan gynnwys trwy niwed corfforol uniongyrchol, fel anafiadau, trais a syndrom alcohol y ffetws, ac fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Nododd 14% o oedolion a holwyd yng Nghymru eu bod wedi dod i gysylltiad â chamddefnydd alcohol yn ystod eu plentyndod, gyda nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu risg yr unigolion eu hunain o ddatblygu ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd, fel yfed risg uchel2.
Er gwaethaf hyn, yn 2024, dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 21.5% o oedolion sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi nodi eu bod yn yfed mwy na'r canllawiau a argymhellir (uwchlaw 14 uned), sy'n uwch na chyfartaledd Cymru (17.2%)3. Roedd 28% o blant (11-16 oed) yng Nghaerdydd a'r Fro hefyd wedi nodi eu hunain eu bod wedi yfed alcohol yn 20234.
Nid yw effeithiau yfed alcohol niweidiol yn brofiad cyfartal ar draws ein poblogaeth chwaith. Yng Nghymru yn 2024 / 25, roedd cyfran yr holl gleifion a gafodd eu derbyn o ganlyniad i gyflyrau penodol i alcohol, a oedd yn byw yn y 10 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, 2.9 gwaith yn uwch na'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig5.
Mae achosion o yfed lefelau uchel o alcohol gyda'r nos yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cyfrannu at drais a throsedd sy'n gysylltiedig ag alcohol ac effaith ar ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys arwain at fwy o bobl yn mynd i'r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r Ganolfan Triniaeth Alcohol yng nghanol dinas Caerdydd.
Gwaith Tîm Iechyd y Cyhoedd, mewn partneriaeth, ar atal niwed alcohol
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid niferus, y tu mewn a'r tu allan i'r Bwrdd Iechyd, i ddeall sut mae alcohol yn effeithio ar ein cymunedau; i godi ymwybyddiaeth am niwed alcohol; i gydweithio i atal y niwed hwnnw; ac i gefnogi ein partneriaid i helpu'r rhai yr effeithir arnynt gan alcohol.
Ein Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Dr Claire Beynon, yw Cadeirydd Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro (APB), sef cydweithrediad o bartneriaid o bob rhan o'r ardal sy'n gyfrifol am ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Atal Niwed Alcohol, sy'n dwyn ynghyd cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd, i gryfhau ac adeiladu ar waith sy'n digwydd eisoes ar alcohol, ac i ddatblygu gwaith cydweithredol newydd. Er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda Thîm Cymorth APB, yr Uned Achosion Brys a Thimau Diogelu'r BIP, a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS), i ddatblygu cynnig sgrinio alcohol ac ymyrraeth alcohol fer i gleifion sy'n mynychu Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru.
Rydym yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn addysg a chodi ymwybyddiaeth i atal niwed alcohol, gan gynnwys creu adnoddau a mynychu digwyddiadau mewn lleoliadau cymunedol ac addysgol i roi gwybodaeth a chyngor.
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i'r rhai sy'n darparu ymyriadau byr ar alcohol fel rhan o'u rolau. Sgyrsiau byr, strwythuredig yw'r rhain sydd â'r nod o gefnogi ac annog unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u lles drwy leihau faint o alcohol maen nhw'n ei yfed.
Ar lefel y gymuned a'r boblogaeth, rydym hefyd yn cefnogi camau gweithredu i atal niwed alcohol, er enghraifft drwy weithio gyda'n partneriaid ar geisiadau am drwyddedau alcohol, ac wrth ymateb i ymgynghoriadau'r Llywodraeth ar bolisi alcohol.
Cysylltwch os hoffech ddysgu mwy am unrhyw ran o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud. Anfonwch e-bost at Dîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar Cav.Publichealthteam@wales.nhs.uk; neu ffoniwch ni ar 02921 836 505.
I weithwyr proffesiynol iechyd a gofal - sut alla i gael mwy o help?
Am gymorth pellach i glaf neu gleient:
Mae gwybodaeth ddibynadwy a hawdd ei darllen am alcohol ac iechyd, gan gynnwys cyngor ar yfed risg is, ar gael ar dudalennau gwe alcohol ein tîm ac o dudalennau gwe Cadw Fi'n Iach y BIP. Mae canllaw hunangymorth mwy manwl y GIG ar ddeall arferion yfed ar gael, yn ogystal â thaflen y gellir ei hargraffu, [AS1] ‘Ystyried Eich Yfed’, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhagor o gymorth ar gael gan Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS) a DAN 247 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru.
Gellir atgyfeirio cleifion hefyd at CAVDAS i gael cymorth neu i'r Uned Ddibyniaeth Gymunedol.
Mae Tîm Nyrsio Ysgol Caerdydd a'r Fro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd ar gael i roi cymorth os yw defnyddio alcohol yn effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar blentyn neu berson ifanc yng Nghaerdydd a'r Fro.
Am hyfforddiant pellach:
Mae CAVDAS yn cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi pobl sy'n defnyddio alcohol neu gyffuriau yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mae hyfforddiant ar-lein Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif ar gael yma MECC // Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd: Hafan. Mae hyn yn cynnwys modiwl hyfforddi ar-lein Lefel 2, Ymyriad Byr ar Alcohol (ABI) sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder wrth gyflwyno Ymyriad Byr ar Alcohol (ABI).
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
[1] World Health Organization (2024) Alcohol. Cyrchwyd: 18 Medi 2025. Ar gael o: https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/alcohol
[2] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2015) Astudiaeth Cymru ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u heffaith ar ymddygiad sy'n niweidio iechyd ymhlith poblogaeth oedolion Cymru. Cyrchwyd: 17 Medi 2025. Ar gael o: https://phw.nhs.wales/files/aces/aces-and-their-impact-on-health-harming-behaviours-in-the-welsh-adult-population-pdf/
[3] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2025) Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru. Ar gael o: PHOF_Dashboard.knit (shinyapps.io). Cyrchwyd: 17 Ebrill 2025
[4] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2025) Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd. Cyrchwyd: 18 Medi 2025. Ar gael o: https://publichealthwales.shinyapps.io/SHRN_Dashboard/
[5] Iechyd Cyhoeddus Cymru (2025) Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2024/25. Cyrchwyd: 17 Rhagfyr 2025. Ar gael o: https://phw.nhs.wales/publications/publications1/data-mining-wales/
[AS1]link
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.