Neidio i'r prif gynnwy

Dod o hyd i'ch Dewis Sylfaenol

Ydych chi'n dal i chwilio am y person arbennig hwnnw? Y person sy’n rhoi’r cymorth a’r arweiniad cywir ichi, pan fydd ei angen arnoch? Os nad ydych chi'n siŵr pa ffordd i droi o ran eich iechyd, dod o hyd i'ch Dewis Sylfaenol yw'r lle i ddechrau.

Ledled Caerdydd a’r Fro, eich Dewis Sylfaenol yw’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cymuned a all eich cefnogi gyda’ch anghenion gofal iechyd.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwybod pwy rydych chi'n chwilio amdano, a ble i ddod o hyd iddynt.

Dysgwch fwy am y gwahanol dimau sy'n cyfateb i'ch anghenion gofal iechyd isod.

 

Cwrdd ag Andrew...

Gall Fferyllwyr Cymunedol wneud cymaint mwy na dosbarthu meddyginiaethau.

Eich cyswllt cyntaf ar gyfer pob mân afiechyd, boed yn ben tost, y llindag, neu’r clefyd crafu, bydd Andrew yn gallu eich helpu.

Mae hefyd yn cynnig clust dda i wrando ac yn rhoi cyngor a thriniaeth wych, am ddim!

Cwrdd ag Claire...

Maen nhw'n dweud bod y llygaid yn ffenestr i'r enaid, a gall Clare helpu i sicrhau eich bod chi'n gallu gweld yn glir.

Os ydych chi mewn poen, neu'n profi unrhyw broblemau gyda'ch llygaid, Clare yw'r un i chi.

Cwrdd ag Adam... 

Oes angen gofal y geg arnoch chi?

Nid yw’n gorfod bod mor galed â thynnu dannedd. Poen yn y geg, cefnddannedd yn peri trafferth, deintgig yn gwaedu neu ddannoedd, gall Adam leddfu eich pryderon.

 

Cwrdd ag Kate... 

Bydd Kate yno i chi pan fydd eich pwysedd gwaed yn codi.

Felly, p'un a oes angen cyngor atal cenhedlu, sgrinio iechyd, adolygiadau salwch cronig, neu imiwneiddiadau, Kate yw'r person rydych chi wedi bod yn chwilio amdano.

 

Cwrdd ag Sara...

Ydych chi'n aderyn y nos? Mae Sara yn hefyd.

Os byddwch chi'n teimlo'n sâl yn ystod y nos a ddim yn siŵr ble i droi, gallwch ddod o hyd i Sara yn eich gwasanaeth y tu allan i oriau, a fydd yn rhoi'r un gofal brys sydd ddim yn peryglu bywyd yn ystod y nos, os na all aros tan y diwrnod wedyn.

 

Cwrdd ag Sherard... 

Dal heb ddod o hyd i'r datrysiad iawn ar gyfer eich problemau gofal iechyd?

Mae'n debyg bod angen i chi siarad â'ch meddyg teulu.

Gall Sherard helpu gyda'r materion mwy cymhleth hynny sy'n achosi problem a helpu i'ch cadw'n heini ac yn iach.

 

Dilynwch ni