Mae Gofal Sylfaenol yn aml yn cael ei ystyried yn ‘ddrws blaen’ i’r gwasanaeth gofal iechyd; y tîm gofal iechyd yn y gymuned fydd eich man cyswllt cyntaf ar gyfer symptomau a chyflyrau newydd.
Mae eich tîm Gofal Sylfaenol yn cynnwys Meddygon Teulu, Nyrsys Ymarfer Cyffredinol, Fferyllwyr Cymunedol, Optometryddion, Deintyddion a thimau Gofal Brys y Tu Allan i Oriau. Mae Dewis Sylfaenol wedi’i ddatblygu i’ch helpu i ddeall pa aelod o’r tîm Gofal Sylfaenol all eich helpu, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan y person iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae gwybod pwy yw eich tîm Gofal Sylfaenol a sut i gael gafael arnynt yn bwysig - nid eich meddyg teulu yw’r person iawn i droi ato ar gyfer pob cyflwr.