Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Maeth am Oes

Logo Sgiliau Maeth am Oes

Mae Sgiliau Maeth am Oes yn rhaglen o hyfforddiant a mentrau sgiliau maeth gyda sicrwydd ansawdd a ddatblygwyd ac a gydlynir gan ddeietegwyr sy'n gweithio yn y GIG. Nod y rhaglen yw cefnogi ystod eang o weithwyr cymunedol i hyrwyddo bwyta'n iach ac ymgorffori sgiliau bwyd a maeth yn eu gwaith.

Nod y rhaglen yw hyfforddi'r rhai sy'n gweithio'n agos gyda phobl leol ac sy'n deall eu anghenion i gefnogi cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am fwyta'n iach. Mae dwy agwedd allweddol i'r hyfforddiant maeth.

Hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol

Mae hyfforddiant Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 achrededig Agored Cymru yn eu galluogi i hyrwyddo negeseuon bwyta'n iach allweddol sy'n canolbwyntio ar y plât bwyta'n iach. Mae hefyd yn dysgu sgiliau ymarferol fel cyllidebu, siopa am fwydydd iach, deall labeli bwyd a sut i addasu ryseitiau. Mynychir y cwrs hwn gan y rhai sy'n bwriadu cyflwyno mentrau bwyta'n iach fel sgiliau coginio ymarferol neu raglenni rheoli pwysau cymunedol fel rhan o'u gwaith.

Cyrsiau hyfforddi sgiliau maeth Lefel 2 i weithwyr cymunedol:

 

Cwrs Nod
Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (Lefel 2, 3 credyd) Galluogi gweithwyr cymunedol i raeadru negeseuon bwyd a maeth cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gyfranogwyr cymunedol ac i gyflwyno cyrsiau achrededig Lefel 1
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (Lefel 2, 2 gredyd) Galluogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar i raeadru negeseuon bwyd a maeth cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth i blant a theuluoedd a gwella'r ddarpariaeth bwyd a diod yn eu lleoliad
Sgiliau Bwyd a Maeth i'r Rhai sy'n Darparu Gofal (Lefel 2, 1 credyd) a Gwella Gofal Bwyd a Maeth (Lefel 2, 1 credyd) Galluogi staff sy'n gweithio gydag oedolion hŷn bregus i wella'r ddarpariaeth bwyd a diod i'r rhai sydd dan eu gofal ac atal diffyg maeth.

 

Mentrau bwyta'n iach gyda grwpiau cymunedol

Mae tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn cefnogi'r rhai sydd wedi cwblhau'r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 i gynllunio, gweithredu a gwerthuso mentrau bwyta'n iach gyda'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw. Gall hyn gynnwys cyflenwi'r cyrsiau Lefel 1 achrededig yn y tabl canlynol.

Cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes Lefel 1 i grwpiau cymunedol:

 

Crws Nod
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (Lefel 1, 1 credyd) Galluogi unigolion i wneud dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy ac ennill credydau am ddysgu
Dewch i Goginio – Coginio ar gyfer Iechyd (Lefel 1, 2 gredyd) Galluogi cyfranogwyr i baratoi prydau bwyd iach, diogel, economaidd iddynt eu hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio ac ennill credyd am ddysgu (gweler Dewch i Goginio)
Bwyd Doeth am Oes —(Rhaglen Rheoli Pwysau i Unigolion) (Lefel 1, 2 gredyd) Galluogi cyfranogwyr i reoli eu pwysau eu hunain (gweler Bwyd Doeth am Oes)

 

Cyfeiriwch at Gyrsiau Hyfforddiant am restr lawn o gyrsiau addas sydd ar gael.

Mae hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes wedi'i ymgorffori mewn rhaglenni cenedlaethol gan gynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf ac mae'n cefnogi cydrannau maethiad gweithredol y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy cenedlaethol, Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru a Llwybr Maeth mewn Lleoliadau Cymunedol.

Yn 2014, dyfarnwyd Gwobr Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru i Sgiliau Maeth am Oes ac enillodd Wobr GIG Cymru am Hyrwyddo Iechyd Gwell ac Osgoi Clefyd a Gwobr Bevan y DU am Iechyd a Llesiant.

Dilynwch ni