Mae Sgiliau Maeth am Oes yn rhaglen o hyfforddiant a mentrau sgiliau maeth gyda sicrwydd ansawdd a ddatblygwyd ac a gydlynir gan ddeietegwyr sy'n gweithio yn y GIG. Nod y rhaglen yw cefnogi ystod eang o weithwyr cymunedol i hyrwyddo bwyta'n iach ac ymgorffori sgiliau bwyd a maeth yn eu gwaith.
Nod y rhaglen yw hyfforddi'r rhai sy'n gweithio'n agos gyda phobl leol ac sy'n deall eu anghenion i gefnogi cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am fwyta'n iach. Mae dwy agwedd allweddol i'r hyfforddiant maeth.
Mae hyfforddiant Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 achrededig Agored Cymru yn eu galluogi i hyrwyddo negeseuon bwyta'n iach allweddol sy'n canolbwyntio ar y plât bwyta'n iach. Mae hefyd yn dysgu sgiliau ymarferol fel cyllidebu, siopa am fwydydd iach, deall labeli bwyd a sut i addasu ryseitiau. Mynychir y cwrs hwn gan y rhai sy'n bwriadu cyflwyno mentrau bwyta'n iach fel sgiliau coginio ymarferol neu raglenni rheoli pwysau cymunedol fel rhan o'u gwaith.
Cyrsiau hyfforddi sgiliau maeth Lefel 2 i weithwyr cymunedol:
Cwrs | Nod |
Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (Lefel 2, 3 credyd) | Galluogi gweithwyr cymunedol i raeadru negeseuon bwyd a maeth cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gyfranogwyr cymunedol ac i gyflwyno cyrsiau achrededig Lefel 1 |
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (Lefel 2, 2 gredyd) | Galluogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar i raeadru negeseuon bwyd a maeth cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth i blant a theuluoedd a gwella'r ddarpariaeth bwyd a diod yn eu lleoliad |
Sgiliau Bwyd a Maeth i'r Rhai sy'n Darparu Gofal (Lefel 2, 1 credyd) a Gwella Gofal Bwyd a Maeth (Lefel 2, 1 credyd) | Galluogi staff sy'n gweithio gydag oedolion hŷn bregus i wella'r ddarpariaeth bwyd a diod i'r rhai sydd dan eu gofal ac atal diffyg maeth. |
Mae tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn cefnogi'r rhai sydd wedi cwblhau'r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 i gynllunio, gweithredu a gwerthuso mentrau bwyta'n iach gyda'r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw. Gall hyn gynnwys cyflenwi'r cyrsiau Lefel 1 achrededig yn y tabl canlynol.
Cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes Lefel 1 i grwpiau cymunedol:
Crws | Nod |
Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol (Lefel 1, 1 credyd) | Galluogi unigolion i wneud dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy ac ennill credydau am ddysgu |
Dewch i Goginio – Coginio ar gyfer Iechyd (Lefel 1, 2 gredyd) | Galluogi cyfranogwyr i baratoi prydau bwyd iach, diogel, economaidd iddynt eu hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio ac ennill credyd am ddysgu (gweler Dewch i Goginio) |
Bwyd Doeth am Oes —(Rhaglen Rheoli Pwysau i Unigolion) (Lefel 1, 2 gredyd) | Galluogi cyfranogwyr i reoli eu pwysau eu hunain (gweler Bwyd Doeth am Oes) |
Cyfeiriwch at Gyrsiau Hyfforddiant am restr lawn o gyrsiau addas sydd ar gael.
Mae hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes wedi'i ymgorffori mewn rhaglenni cenedlaethol gan gynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf ac mae'n cefnogi cydrannau maethiad gweithredol y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy cenedlaethol, Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru a Llwybr Maeth mewn Lleoliadau Cymunedol.
Yn 2014, dyfarnwyd Gwobr Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru i Sgiliau Maeth am Oes ac enillodd Wobr GIG Cymru am Hyrwyddo Iechyd Gwell ac Osgoi Clefyd a Gwobr Bevan y DU am Iechyd a Llesiant.