Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur

Banana wedi

Mae Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Caerdydd a'r Fro ar agor i feithrinfeydd dydd, grwpiau Dechrau'n Deg, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Gallant gyflawni'r wobr os darperir byrbrydau a diodydd iach a bod canllawiau ar hylendid a'r amgylchedd bwyta yn cael eu bodloni. Os yw grŵp yn cwrdd â’r meini prawf hyn a bod ganddo aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi mewn maeth, gallant gyflawni’r wobr ‘Aur a Mwy’.

Mae bod yn rhan o'r cynllun yn dangos ymrwymiad i iechyd plant ac annog arferion bwyta da. Mae'n dangos bod lleoliad yn rhoi argymhellion gan Fwyd a Maeth i Leoliadau Gofal Plant ar waith.

O fis Medi 2015, gofynnir i'r rheini sy'n rhan o'r cynllun arddangos logo gwobr byrbrydau i rieni a theuluoedd ei weld.

Goruchwylir y wobr gan Dîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus a'i chefnogi gan grŵp gweithredu amlddisgyblaethol. Mae gwaith y wobr byrbryd yn cysylltu â Chynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dilynwch ni