Neidio i'r prif gynnwy

Doeth am Fwyd am Oes

Logo Doeth am Fwyd am Oes

Ysgrifennwyd ‘Doeth am Fwyd am Oes’ gan Ddietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru (PHDiW) ac mae’n rhaglen rheoli pwysau strwythuredig wyth wythnos sy’n canolbwyntio ar golli pwysau yn y tymor hir. Cyflwynir y rhaglen gan ystod o staff cymunedol mewn lleoliadau fel canolfannau hamdden, neuaddau cymunedol ac ysgolion.

Bydd o fudd i unigolion sydd dros bwysau a chyda Mynegai Màs y Corff >25kg/m2.

Mae ‘Doeth am Fwyd am Oes’ yn ymdrin â phynciau fel:

  • Ffordd iach o golli pwysau.
  • Dod yn fwy egnïol. Symud mwy!
  • Cael cefnogaeth a syniadau i'ch helpu i newid eich arferion bwyta
  • Meintiau dognau o fwyd
  • Labeli Bwyd
  • Delio â newyn a chwant bwyd
  • Goresgyn rhwystrau
  • Gwell Addasu nag Aberthu

Ni fwriedir iddo ddisodli addysg/gofal strwythuredig a ddarperir gan weithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer y rheini â chyflyrau meddygol penodol fel diabetes, syndrom coluddyn llidus neu swyddogaeth thyroid isel.

 

Dilynwch ni