Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Cerdyn Melyn Cymru

Mae Canolfan Cerdyn Melyn Cymru (YCC Cymru) yn cael ei rhedeg gan staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n un o bum canolfan ranbarthol sy’n monitro adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADR), sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Mae gan YCC Cymru rôl addysgol a chyfathrebu hanfodol i annog aelodau o'r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i roi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir i gyffuriau (ADRs) drwy'r Cynllun Cerdyn Melyn.

Mae staff YCC Cymru ar gael i roi cyngor ar adrodd ar Gerdyn Melyn, a darparu sesiynau addysg a hyfforddiant am ADRs a amheuir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a grwpiau cleifion. Gall y rhain amrywio o gyfarfodydd anffurfiol bach i ddarlithoedd ffurfiol y gellir eu haddasu i gwmpasu:

  • Sut i adnabod Adwaith Niweidiol i Gyffur (ADR)
  • Pwysigrwydd adrodd
  • Beth i'w adrodd ar Gerdyn Melyn
  • Her ADRs yng Nghymru
  • Sut mae gwybodaeth Cerdyn Melyn yn cael ei defnyddio
  • Osgoi ADRs a rhyngweithiadau
  • Rhagnodi diogel ac effeithiol

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan YCC Cymru neu cysylltwch i drefnu sesiwn hyfforddi neu gael gwybod mwy.

 

Mae gwefan YCC Cymru yn cael ei chynnal gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC). Mae'n darparu gwybodaeth ac arweiniad i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd ar bwysigrwydd rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir i gyffuriau, yn ogystal â darparu mynediad i'r Cynllun Cerdyn Melyn ar gyfer adrodd ar-lein.

 

Dilynwch ni