Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gwirfoddoli i Bobl Ifanc dros yr Haf

Mae gan bob Haf stori... Beth fydd eich un chi?
Beth ydyw?

Nid oes rhaid i chi fod â diddordeb mewn gyrfa yn y GIG na'r proffesiwn meddygol i wirfoddoli ar y prosiect hwn.  Mae gennym ddiddordeb mewn pobl ifanc o bob cefndir sy'n awyddus i wirfoddoli yn ystod yr haf ac sy'n ddibynadwy. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar ôl cyfweliad.

Bydd gwirfoddolwyr YSP yn cael cyfle i brofi 3 rôl wirfoddol wrth iddynt symud drwy'r rhaglen.

  • Tîm Croeso
  • Ymgysylltu â Chleifion (wardiau a mannau cyhoeddus):

Dysgwch fwy am y tasgau a'r hyn a gewch o'r rhaglen trwy edrych ar y disgrifiad rôl

Meini prawf hyfforddiant
  • Pobl ifanc rhwng 16 ac 25 oed
  • Ar gael i wirfoddoli drwy gydol y rhaglen 6 wythnos
  • Yn gallu cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau
Dyddiadau Pwysig
  • Mae'r rhaglen yn rhedeg 24 Gorffennaf 22/07/2024 - 30/08/2024

  • Ceisiadau ar agor 06/03/2024
  • Ceisiadau’n cau ar 20/03/2024
  • Cynhelir cyfweliadau’n rhithwir ar Hanner Tymor y Pasg 2024.

Diolch am eich ymateb gwych – mae’r ceisiadau bellach yn llawn ac wedi cau

Darllenwch y dudalen we Canllawiau Ymgeisio cyn gwneud cais am y rôl hon.

Cofiwch gyflwyno’ch cais cyn gynted â phosibl gan ein bod yn cadw’r hawl i newid dyddiad cau’r cyfle hwn os bydd nifer sylweddol o bobl â diddordeb yn y rôl.