Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Clinig Toresgyrn Rhithwir

Ar ôl i chi fynd i'r Adran Achosion Brys gydag anaf orthopedig, bydd eich atgyfeiriad a'ch pelydrau-x yn cael eu hadolygu gan ymgynghorydd orthopedig. Yna, cysylltir â chi o fewn tri diwrnod gwaith i drafod a threfnu eich gofal parhaus.

Ni fydd angen mwy o driniaeth ar lawer o anafiadau orthopedig, ond bydd angen i chi wneud rhai pethau (e.e. efallai y bydd angen i chi wneud ymarferion penodol). Mae'r Clinig Toresgyrn Rhithwir hwn yn rhoi gwybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud i'ch helpu i adfer, heb fod angen i chi fynd i'r clinig trawma orthopedig eich hun.

Mae'r wybodaeth yn yr adran hon ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o anaf orthopedig penodol ac yna wedi cael eu hatgyfeirio i'r Clinig Toresgyrn Rhithwir hwn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor o rywle arall os nad yw’r sefyllfa hon yn berthnasol i chi.