Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Iechyd - I'ch helpu chi

Mae eich meddyg a'r tîm o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch yn cadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal a gewch gan y GIG. Caiff yr wybodaeth hon ei hysgrifennu (cofnodion papur), neu ei chadw ar gyfrifiadur (cofnodion electronig). Defnyddir y cofnodion hyn wedyn i dywys a rheoli'r gofal a gewch.

Gwneir hyn er mwyn sicrhau:

  • Bod gan eich meddyg, nyrs neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall sy'n gofalu amdanoch yr wybodaeth gywir ddiweddaraf i asesu eich iechyd a phenderfynu pa ofal sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn ymweld.
  • Cewch eich gwahodd i gael triniaeth reolaidd fel imiwneiddiadau a sgrinio.
  • Bod sail dda i asesu math ac ansawdd y gofal a gawsoch: bydd hyn yn arwain at well gofal i chi ac i gleifion eraill.
  • Os oes angen ichi gwyno am y gofal a gewch, bydd eich pryderon neu gwynion yn destun ymchwiliad priodol gan y timau perthnasol.
  • Os cewch eich atgyfeirio i feddyg mewn rhan arall o'r GIG, efallai bydd yn mynnu gweld eich hanes meddygol.

Efallai hefyd y byddwch yn cael gofal gan sefydliadau y tu allan i'r GIG (fel Gwasanaethau Cymdeithasol). Os felly, mae'n bosib y bydd angen inni rannu ychydig o wybodaeth amdanoch fel y gall pawb sy'n gofalu amdanoch gydweithio er eich lles chi. Ni fydd gwybodaeth amdanoch chi'n cael ei defnyddio na'i throsglwyddo heblaw bod ei hangen ar eraill sy'n gofalu amdanoch.

 

Cyfrinachedd

Gall eich gwybodaeth gael ei defnyddio am resymau heblaw eich gofal uniongyrchol. Pryd bynnag y bydd hyn yn angenrheidiol, bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, a bydd yn destun yr egwyddorion cyfrinachedd. Mae'r egwyddorion hyn yn rhwymo mewn cyfraith i sicrhau y cymhwysir y safon uchaf posibl bob amser.

Pryd bynnag y bo modd, dim ond gwybodaeth nad yw'n adnabyddadwy (hynny yw, gwybodaeth lle gwaredwyd eich manylion personol fel enw, cyfeiriad a chod post) a drosglwyddir i eraill, a hynny ar yr amod ei bod yn angenrheidiol. 

  • Cyn lleied o wybodaeth ag sydd ei hangen yn unig fydd yn cael ei throsglwyddo; dim mwy nag sydd ei hangen.
  • Mae unrhyw un sy'n cael gwybodaeth amdanoch o dan ddyletswydd gyfreithiol i'w chadw'n gyfrinachol.
Dilynwch ni