Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeirio am Wasanaethau AAC Arbenigol

I dderbyn asesiad ac offer gan y gwasanaeth, rhaid i berson gwrdd â'n meini prawf cymhwysedd a chael ei atgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Gweithwyr iechyd proffesiynol

Os ydych chi'n weithiwr iechyd proffesiynol sy'n ystyried gwneud atgyfeiriad, edrychwch trwy'r wybodaeth am y llwybr gofalmeini prawf a'r ffurflen atgyfeirio

Pan ydych yn barod, argraffwch a chwblhewch y ffurflen atgyfeirio a'i hanfon atom.

Mae'r ffurflen yn gofyn am wybodaeth eithaf manwl. Mae hyn er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ein hymatebion ac anfon y staff a'r offer mwyaf priodol allan ar gyfer yr asesiad cychwynnol. Gwneir y mwyafrif o asesiadau cychwynnol yng nghartref yr unigolyn neu mewn man cyfarwydd fel ei ysgol. Mae hyn fel arfer yn golygu bod nifer o'n staff yn teithio.

Aelodau o'r cyhoedd

Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd ac yn credu y gall y tîm eich helpu gydag anawsterau cyfathrebu, cysylltwch â'ch gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith lleol. Byddant yn asesu eich sefyllfa a byddant yn eich atgyfeirio atom os yw'n briodol.

Dilynwch ni