Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cenedlaethol Cymru i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Codir tâl bychan fesul sesiwn.

Mae'n rhaglen weithgareddau 16 wythnos a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer eich anghenion unigol, gyda chymorth y tîm iechyd a ffitrwydd. Gall eich rhaglen bersonol gynnwys gweithgareddau grŵp neu unigol fel defnyddio'r ystafell iechyd a ffitrwydd, nofio, aerobeg, cerdded a llawer mwy. Yn ystod y rhaglen gallwch hefyd ddefnyddio'r canolfannau hamdden am bris gostyngedig.

Canolfannau hamdden lleol ar draws Caerdydd a'r Fro.

Timau Iechyd a Ffitrwydd yn eich canolfannau hamdden lleol.

Gall unigolion sydd wedi cael eu hadnabod gan eu Ymarferydd Meddygol (e.e. Meddyg) fel rhai a allai fanteisio ar gymryd rhan mewn ymarfer corff fynychu. Mae diabetes yn cael ei ystyried yn rheswm dros atgyfeirio.

Ymwelwch â'ch meddygfa leol. Os ydych chi'n gymwys, bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol, fel arfer meddyg teulu, nyrs practis neu ffisiotherapydd cyflwr-benodol, yn eich atgyfeirio.

Dilynwch ni