Gwybodaeth am y Dosbarthiadau Cryfder a Chydbwysedd sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Oddeutu £3.50 / £4.00 fesul dosbarth.
Dosbarth ymarfer corff grŵp wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i wella'ch cryfder, cydbwysedd a'ch symudedd. Gall cael cryfder a chydbwysedd da hefyd helpu i leihau'r risg o gwympo. Yn aml mae amser ar ddiwedd dosbarthiadau i gael paned a sgwrs hefyd.
Mae hyfforddwyr ymarfer corff hyfforddedig yn cyflwyno amserlen o ddosbarthiadau ledled Caerdydd.
Pobl hŷn a hoffai wneud ymarfer corff i wella cryfder a chydbwysedd, p'un a ydynt wedi cwympo o'r blaen ai peidio.
Argymhellir eich bod yn cysylltu â hyfforddwr cyn mynychu'r dosbarth i drafod a yw'n addas ar gyfer eich anghenion, ond gallwch fynd i unrhyw un o'r dosbarthiadau ar yr amserlen.
I gael rhagor o wybodaeth am y dosbarthiadau, ffoniwch yr hyfforddwyr unigol y mae eu manylion cyswllt ar amserlen y dosbarthiadau ar y dudalen Atal Cwympo.