Neidio i'r prif gynnwy

Proses Atgyfeirio

Meini Prawf Cynhwysiant

  • Oedolion 18 + (Mae rhai 16-17 oed yn cael eu hystyried fesul achos)
  • Diagnosis clinigol o Anaf Ymennydd Caffaeledig, gan gynnwys:
  • Anaf Ymennydd Trawmatig
  • Gwaedlif Is-Arachnoid
  • Anaf Hypocsig i'r Ymennydd
  • Tiwmorau (ac eithrio rhai sy'n Cynyddu'n Gyflym a rhai Gradd Uchel)
  • Enceffalitis/ Anhwylderau Heintus eraill
  • Anaf ymennydd caffaeledig sydd wedi digwydd o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf
  • Anaf ymennydd yw'r prif Angen
    • Os oes gan yr Unigolyn anghenion eraill sy'n cael mwy o flaenoriaeth (e.e. Camddefnyddio Sylweddau neu Iechyd Meddwl) byddem yn gofyn iddo gael ei atgyfeirio ar gyfer ei Brif anhawster yn gyntaf.  
  • Wedi nodi Nodau Adsefydlu ac yn fodlon/gallu cymryd rhan mewn adsefydlu
    • D.S. darparwn wasanaeth monitro i'r Unigolion hynny ag Anaf Ymennydd Difrifol sydd ag anghenion cynhaliaeth Tymor Hir o ganlyniad i'w Hanaf Ymennydd, yn hytrach na bod angen adsefydlu gweithredol arnynt)
  • Angen Dull Tîm (yn hytrach na chyfraniad gan un therapi yn unig)
  • Yn Feddygol Sefydlog

Meini Prawf Eithrio

  • Strôc
  • Anhwylderau dirywiol
  • Unigolion â symptomau cyfergyd/symptomau ôl-gyfergyd
    • Mae angen gwahanol fath o gyfraniad ar hyn
  • Ni welwn unigolion sy'n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Nyrsio
  • Ni chynigiwn Wasanaeth Argyfwng na Mynediad Cyflym

Atgyfeiriadau Derbyniol

  • Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Meddygon Teulu
  • Gweithwyr Cymdeithasol 
  • Ymgynghorwyr
  • Headway

Ni dderbyniwn hunan-atgyfeiriadau.

Dilynwch ni