Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Croeso i'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Mae'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn nodi pwysigrwydd gwella canlyniadau iechyd a lles i blant, yn enwedig y plant hynny sydd dan anfantais. Diben y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yw gwella ansawdd bywyd i blant a theuluoedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg - gan ychwanegu blynyddoedd at fywyd, ond bywyd at flynyddoedd hefyd.

Gair amdanom ni

Bydd y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yn darparu'n sylfaenol wasanaeth cyffredinol i bob teulu sydd â phlant o dan 5 oed. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys asesiadau iechyd cynhwysfawr sy'n arwain at ddarparu gwasanaeth ar sail yr unigolyn ac angen lleol a bydd yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gyrraedd targedau gwella iechyd.

Gwasanaeth iechyd cyhoeddus ataliol yn bennaf yw'r gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol: 

  • chwilio am anghenion iechyd,
  • ysgogi ymwybyddiaeth am anghenion iechyd,
  • dylanwadu ar bolisïau sy'n effeithio ar iechyd, a 
  • hwyluso gweithgareddau sy'n gwella iechyd.

Mae pob Ymwelydd Iechyd yn nyrsys cymwysedig, sy'n gwneud hyfforddiant Ymwelydd Iechyd arbenigol ychwanegol wedyn. Mae'r hyfforddiant hwn yn gwrs academaidd amser llawn ac, ar hyn o bryd, fe'i darperir ar ffurf gradd anrhydedd. Pan fydd wedi cwblhau'r radd hon, oherwydd y cymhwyster arbenigol a enillir, mae'r Nyrs yn cael ei chofrestru ar ran ychwanegol o gofrestr NMC.

Cefnogir Ymwelwyr Iechyd yn eu gwaith gan Nyrsys Meithrin Cymunedol a Staff Cymorth Gweinyddol.   

Trowch at ein Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Arbenigol yma.

Sut mae cael at y gwasanaeth

Mae Ymwelwyr Iechyd yn gweithio'n agos gyda Bydwragedd a Meddygon Teulu - byddant yn rhoi gwybod inni amdanoch chi a'ch teulu yn ystod beichiogrwydd neu pan fyddwch wedi cael eich baban. Bydd ein cysylltiad cyntaf â chi a'ch teulu naill ai yn ystod eich beichiogrwydd neu yn fuan ar ôl i chi gael eich baban.

Os hoffech gysylltu â'ch Ymwelydd Iechyd, mae'r manylion cyswllt fel arfer wedi'u hysgrifennu ym mlaen y llyfr coch (cofnod iechyd plentyn sy'n cael ei gadw gan y rhiant). Os ydych yn ansicr neu wedi symud yn ddiweddar i Gaerdydd neu'r Fro, ffoniwch 02921 836916 a byddwn yn gallu rhoi'r manylion cyswllt i chi. 

Mae pob Ymwelydd Iechyd yn gweithio yn y Gymuned, a rhai'n gweithio mewn meddygfeydd teulu ac eraill yn safleoedd y BIP. 

Mae'r uwch dîm yn gweithio o:

Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Generig a Dechrau'n Deg
Woodland House
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4TT

 

Generig:                      029 2183 6916

Dechrau'n Deg Caerdydd:     029 2183 6911

Dechrau'n Deg y Fro:         014 4673 2180

 

Dolenni Defnyddiol

Adnoddau Bwydo ar y Fron (Unicef)

Mae'r adnoddau hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion ynghylch sefydlu a pharhau bwydo llwyddiannus ar y fron. 

https://www.unicef.org.uk/babyfriendly/baby-friendly-resources/breastfeeding-resources/

 

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd    

Gwybodaeth, cymorth a chyngor i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghaerdydd.

https://www.cardifffamilies.co.uk/  

 

ERIC – yr Elusen Pledren a Choluddyn Plant

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol addysg a'r blynyddoedd cynnar am blant a phobl ifanc sydd ag anhwylder y coluddyn neu'r bledren.

https://www.eric.org.uk/

 

First Steps Nutrition

Gwybodaeth ac adnoddau i gefnogi bwyta'n dda o'r cyfnod cyn cenhedlu i bum mlwydd oed.

https://www.firststepsnutrition.org/

 

Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae'n amlinellu pa gysylltiadau wedi'u cynllunio y gall plant a'u teuluoedd eu disgwyl gan eu byrddau iechyd, o drosglwyddo gan y gwasanaeth mamolaeth i flynyddoedd cyntaf addysg ysgol (0-7 oed).

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-05/an-overview-of-the-healthy-child-wales-programme.pdf 

 

Pwysigrwydd y 1,000 Diwrnod Cyntaf

Mae'n amlinellu sut mae gwahanol agweddau ar iechyd plant a rhieni yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf yn gallu effeithio o ddifrif ar allu plant i dyfu, dysgu a ffynnu. 

https://thousanddays.org/why-1000-days/

 

Iechyd Meddwl Mamol (Mind)

Gwybodaeth i famau a phartneriaid am y problemau iechyd meddwl sy'n gallu wynebu mamau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.

https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/postnatal-depression-and-perinatal-mental-health/about-maternal-mental-health-problems/

 

NSPCC – y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant

Elusen i gadw plant yn ddiogel, gan gynnwys drwy roi gwybodaeth am iechyd meddwl plant ac arwyddion cam-drin plant, a sut mae siarad â phlant a phobl ifanc am bynciau fel diogelwch ar-lein, perthnasoedd a chamddefnyddio sylweddau. 

https://www.nspcc.org.uk/ 

 

Cyngor ar Gysgu Mwy Diogel (Lullaby Trust)

Camau syml i leihau risg Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod.

https://www.lullabytrust.org.uk/safer-sleep-advice/ 

Cysgu Yn Ddiogel

 

Amserlen Brechiadau ac Imiwneiddiadau i Fabanod (y GIG)

Mae'n amlinellu'r brechiadau y bydd eu hangen ar eich baban ac ym mha oedran. Mae brechiadau yn diogelu eich baban, ond hefyd yn diogelu babanod a phlant eraill drwy atal clefyd rhag lledu. Cynigir brechiadau yn rhad ac am ddim yn y DU a gellir eu trefnu drwy wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu. 

https://www.nhs.uk/start4life/baby/vaccinations-and-immunisations-baby/

 


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

 

Dilynwch ni