Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Blant, Rhieni a Gofalwyr

Gall dod i'r ysbyty fod yn sefyllfa anodd iawn i'r plentyn a'i deulu. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael i'ch cynorthwyo yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Llyfryn Gwybodaeth

Dyluniwyd ein llyfryn gwybodaeth i helpu i leddfu'r straen hwnnw.

Mae'r llyfryn yn ganllaw byr i rieni / gofalwyr sy'n ymweld ag Ysbyty Plant Cymru. Mae'n amlinellu beth i'w ddisgwyl, pa gyfleusterau sydd ar gael yn yr ysbyty, cyfleusterau lleol a lleoedd i fwyta.

Gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn ddefnyddiol i chi a bod popeth yn mynd yn rhwydd gyda'ch ymweliad.

Os oes angen unrhyw wybodaeth benodol arnoch ynglŷn â derbyniad, cysylltwch â'r ward yn uniongyrchol.

Tocyn Byrddio Arch Noa

Nod y tocyn byrddio yw rhoi'r holl wybodaeth angenrheidiol i'n staff am eich plentyn pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwasanaethau ysbyty.

Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i weithio mewn partneriaeth â chi i ddiwallu anghenion eich plentyn.

Paratoi ar gyfer eich anesthetig

Dilynwch y dolenni isod i gael rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich anesthetig:

Dilynwch ni