14 Mai 2026
Gall cael llawdriniaeth fod yn gyfnod llawn straen a brawychus i gleifion. Mae gan Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau (ODPs) rôl hanfodol wrth sicrhau bod y broses yn rhedeg mor esmwyth â phosibl a bod cleifion yn teimlo'n gyfforddus ac yn cael eu cefnogi drwyddi draw.
Mae ODPs yn rhan o'r tîm gofal amdriniaethol, amlddisgyblaethol mawr, ac maent yn helpu gyda phopeth o driniaethau bach i lawdriniaethau mwy critigol sy'n newid bywydau.
Mae Tahsin a James yn gweithio fel Ymarferwyr yn yr Adran Lawdriniaethau (ODPs) Anesthetig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae eu rolau'n canolbwyntio ar gefnogi cleifion cyn eu llawdriniaeth. Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn cael eu rhoi o dan anesthetig cyffredinol neu leol, felly mae Tahsin a James yn helpu i gefnogi cydweithwyr i roi anesthetig a sicrhau bod cleifion yn dawel eu meddwl ac yn gyfforddus.
Gall ODP ganolbwyntio ar dri maes gwahanol, anestheteg, sgryb ac adferiad. “Anestheteg yw dechrau taith amdriniaethol claf, felly rydym yn helpu gyda phethau fel rhoi anesthetig, monitro arwyddion hanfodol a thawelu meddyliau cleifion” eglura Tahsin.
“Mae sgryb yn golygu cynorthwyo yn ystod y llawdriniaeth ei hun, felly cynorthwyo llawfeddygon gydag offer ac ati yn ystod y llawdriniaeth, ac mae adferiad yn canolbwyntio ar y gofal yn syth ar ôl llawdriniaeth” meddai.
Daeth Tahsin yn ODP yn 2023 ar ôl astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. “Yr hyn a wnaeth i fi eisiau bod yn ODP oedd Greys Anatomy – roedd gen i obsesiwn â’r rhaglen yn yr ysgol. Cefais fy nenu’n fawr at amgylchedd y theatr.”
“I fi, y rhan fwyaf gwerth chweil yw pan fydd claf yn eich cofio ar ôl llawdriniaeth ac yn diolch i chi.”
“Pe bai’n rhaid i fi ddisgrifio fy swydd mewn tri gair, byddwn i’n dweud prysur, hwyl a heriol” meddai hi.
Daeth James yn ODP yn 2019 oherwydd ei fod eisiau dilyn gyrfa ym maes gofal iechyd ond nid oedd yn gweld ei hun yn gweithio ar ward yn unig. “Cefais fy nenu at yr amgylchedd heriol mewn theatrau” meddai.
“Rwy’n hoffi bod yn rhan o dîm wrth reoli sefyllfaoedd llawn straen a gwylio’r tîm yn dod allan ar yr ochr arall gyda’i gilydd, ac yn ddelfrydol gweld y claf yn elwa’n fawr o’n holl ymdrechion.”
“Yn bennaf rydym yn cynorthwyo anesthetyddion ac yn sicrhau bod y broses yn cael ei chynnal yn ddiogel ac yn ddidrafferth, ond rydym hefyd yn rhan o'r tîm trawma ehangach drwy'r ysbyty, gan fynychu galwadau ataliad ar y galon a thrawma lle bynnag y bônt. "Gallwn fod ym mhobman ac yn unrhyw le, a dweud y gwir, yn dibynnu ar y diwrnod," meddai James.
“Pe bai’n rhaid i fi ddisgrifio fy swydd mewn tri gair, byddwn i’n dweud ei bod hi’n ‘rhyfeddol o ragweladwy ac anrhagweladwy.”
Mae Diwrnod ODP yn gyfle i dynnu sylw at y rôl hanfodol sydd gan gydweithwyr fel Tahsin a James mewn gofal amdriniaethol. Y tu ôl i bob llawdriniaeth, mae ODPs yn sicrhau bod cleifion yn cael gofal o'r safon uchaf ac yn cael eu cefnogi'n wirioneddol ar bob cam o'u taith.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.