Neidio i'r prif gynnwy

Y Llawfeddyg Cardiothorasig Enwog Indu Deglurkar yn cael ei Hanrhydeddu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

13 Mai 2024

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod y Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol Indu Deglurkar wedi’i henwi’n gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gorff nodedig sy’n hyrwyddo rhagoriaeth academaidd ac yn meithrin ymchwil ac ysgolheictod ar draws disgyblaethau amrywiol. Mae cymrodoriaeth yr Athro Deglurkar yn dyst i'w gyrfa ryfeddol a'i hymroddiad diwyro i hyrwyddo maes llawdriniaeth gardiothorasig.

Mae Indu wedi bod yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 2010 ac mae’n perfformio ystod eang o lawdriniaethau cardiaidd hynod gymhleth i oedolion. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn llawdriniaeth Aortaidd, llawdriniaeth risg uchel ymhlith yr henoed, a diddordeb arbenigol mewn llawdriniaeth y galon ymhlith cleifion ag anawsterau dysgu difrifol.

Ar ei chyflawniadau, dywedodd Indu, “Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo anrhydedd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Mae’r cyfle i ryngweithio â Chymrodyr o bob cefndir yn wirioneddol gyffrous ac edrychaf ymlaen at ddysgu a chyfrannu at waith y Gymdeithas Ddysgedig."

Mae ethol i Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Mae cyfraniadau Indu Deglukar nid yn unig yn siapio dyfodol llawdriniaeth gardiaidd ond hefyd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod yn y maes.

Mae Indu hefyd wedi’i henwi’n ddiweddar yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Menywod mewn Llawfeddygaeth Gardiothorasig (WiCTC). Fel rhan o'r Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Llawfeddygaeth Gardiothorasig, mae'r WiCTC yn hyrwyddo rôl menywod mewn llawfeddygaeth gardiothorasig ac yn ysbrydoli mwy o fenywod i ddilyn gyrfaoedd llawfeddygol.

Ochr yn ochr â’r Athro Deglurkar, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gael dau gydweithiwr arall wedi’u rhestru fel cymrodyr gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol, Sumit Goyal, a'r Cardiolegydd Ymgynghorol Peter Groves hefyd wedi ennill yr anrhydedd fawreddog hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn falch o fod yn gyflogwr lle mae cydweithwyr yn ymrwymo i hyrwyddo gofal iechyd a darparu'r canlyniadau gorau i gleifion.

Dilynwch ni