14 Tachwedd 2023
Gan ddechrau ddydd Llun 13 Tachwedd hyd at ddydd Gwener 17 Tachwedd, mae Wythnos Genedlaethol Diogelu wedi’i chynllunio i hyrwyddo gwelededd ac ymwybyddiaeth o faterion diogelu allweddol, i annog sgyrsiau a rhannu arferion gorau o ran diogelu. Mae hefyd yn gyfle i flaenoriaethu lles eich hun ac eraill o’ch cwmpas.
Gall lles gyfeirio at iechyd corfforol a meddyliol, cydberthnasau, cysylltiadau cymunedol a chyfraniad personol at gymdeithas. Os yw lles rhywun yn dioddef, efallai y byddant yn ystyried neu’n cymryd camau niweidiol a all beryglu eu hunain neu eraill, neu efallai nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i feddwl neu wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro dîm diogelu pwrpasol sy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o’r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Heddlu De Cymru ac Awdurdodau Lleol. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio partneriaeth y cyfeirir ati fel y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol; a grëwyd i sicrhau diogelwch a gofal o ansawdd i blant ac oedolion yr ystyrir eu bod yn ‘agored i niwed’ neu ‘mewn perygl’.
Yma i egluro mwy mae rhai o'r Tîm:
Mae’r cysyniad o ‘les’ wedi’i wreiddio’n ddwfn yn neddfwriaeth y DU sy’n llywodraethu safoni iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys:
‘Mae gallu byw yn rhydd o gamdriniaeth ac esgeulustod yn elfen allweddol o les’. Gall arwyddion o gam-drin fod yn anodd eu canfod yn aml a gallant gynnwys:
Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, waeth beth fo’u galwedigaeth, eu lefel neu eu statws. Er mwyn diogelu ein cleifion a’n staff, mae’n ofynnol i holl weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gwblhau hyfforddiant gorfodol ac, yn dibynnu ar y math o rôl sydd ganddynt, mae’n bosibl y gofynnir i rai cydweithwyr fynychu uwch hyfforddiant diogelu fel hyfforddiant Lefel 3 y BIP sy’n cwmpasu pynciau diogelu penodol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithredu ‘Polisi Rhyddid i Leisio Barn’ i gydweithwyr godi pryderon ynghylch diogelwch a lles cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff. Yn syml, mae pryder yn golygu eich bod yn credu nad yw rhywbeth yn iawn.
Cafodd y fenter Rhyddid i Leisio Barn ei chychwyn er mwyn creu amgylchedd sy’n galluogi ac yn grymuso staff i godi unrhyw bryderon a allai fod ganddynt, neu bryderon y maent yn arsylwi arnynt yn eu maes gwaith, ac i hysbysu’r corff neu’r awdurdod perthnasol, gan wybod y bydd camau’n cael eu cymryd o ganlyniad.
Mae Linda Hughes-Jones, Pennaeth Diogelu, yma i ddweud mwy wrthym am arwyddocâd diogelu a rôl hanfodol y tîm Diogelu.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.