9 Medi 2026
Ddydd Gwener 28 Awst cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi derbyn Achrediad Arian yn y rhaglen GreenED.
Mae'r achrediad yn cydnabod ymrwymiad y tîm i leihau effaith amgylcheddol yr adran wrth flaenoriaethu gofal cleifion.
Mae'r fenter wedi cael ei harwain gan grŵp GreenED yr adran, gan gynnwys y Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Frys Dr Carolyn Lewis. Dywedodd Dr Lewis: "Yn flaenorol, fy meddylfryd oedd bod cynaliadwyedd amgylcheddol bron yn rhy fawr i fynd i'r afael ag ef. Mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn rhoi fframwaith gwych iawn sy'n ein galluogi i ganolbwyntio ar ddarnau bach yn hytrach nag un broblem fawr haniaethol, er mwyn gwneud gwahaniaeth ystyrlon."
Mae rhai o'r newidiadau ymarferol a gyflwynwyd gyda chefnogaeth y grŵp GreenED yn cynnwys:
Dywedodd Dr Max Rowlands, Cymrawd Clinigol Iau mewn Meddygaeth Frys a Chynaliadwyedd: "Bydd problemau argyfwng yr hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar y tlotaf yn y gymdeithas. Dw i'n meddwl bod gan feddygon a nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n amddiffyn y grwpiau hynny o bobl."
Dywedodd Dr Rowlands, a gafodd ei recriwtio gydag amser neilltuedig ar gyfer gwaith cynaliadwyedd: "Rhan o gyflawni achrediad yw cael adran sy'n rhoi amser wedi'i ddiogelu i bobl feddwl am y materion hyn. Dyna un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud. Fel arall, nid oes gan bobl yr amser na'r gallu meddyliol bob amser i ddatblygu a gweithredu gwelliannau."
Dywedodd Dr Ian Higginson, Llywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys: “Llongyfarchiadau mawr i gydweithwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sydd wedi derbyn achrediad Arian drwy raglen GreenED RCEM.
“Yr haf hwn, rydym wedi gweld yn uniongyrchol mewn rhai rhannau o’r DU ac Iwerddon yr effaith y gall newid hinsawdd o waith dyn ei chael.
“Fel clinigwyr Meddygaeth Frys, rydym yn gweld sut mae hyn yn effeithio ar ein cleifion ac felly mae'n fy llenwi â gobaith bod cydweithwyr ledled y byd yn cymryd cyfrifoldeb ac yn gwneud pethau’n uniongyrchol. Mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn bwysicach nawr nag erioed.
“Rydym ni, fel Coleg, yn falch o gefnogi clinigwyr i wneud eu rhan ac mae’r wobr hon yn adlewyrchu gwaith caled ac arloesedd y tîm yn YAC sydd wedi gweithio i leihau allyriadau a gwastraff, gan arbed arian i’w hadrannau a gwella gofal cleifion yn y pen draw.”
Ar ôl sicrhau’r achrediad Arian, mae'r tîm bellach yn anelu at gyflawni achrediad Aur.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.