15 Mai 2026
Mae Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro, wedi cyhoeddi y bydd hi'n gadael y Bwrdd Iechyd tua diwedd yr haf ar ôl dros bedair blynedd yn arwain y sefydliad. Bydd Suzanne yn ymgymryd â rôl yn ei sir gartref fel Prif Weithredwr yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Iechyd Hampshire ac Ynys Wyth.
Ymunodd Suzanne â BIP Caerdydd a'r Fro ar adeg dyngedfennol i'r sefydliad wrth i'r adferiad o'r pandemig ddechrau.
Dywedodd Kirsty Williams, Cadeirydd BIP Caerdydd a'r Fro: “Hoffwn estyn fy niolch a’m gwerthfawrogiad i Suzanne am ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad i gyflawni gwelliannau i ofal iechyd i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a ledled Cymru.
“Yn ei hamser gyda’r sefydliad, mae Suzanne wedi ymgysylltu â chydweithwyr a phartneriaid i adnewyddu cyfeiriad hirdymor y Bwrdd Iechyd drwy’r Strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol, gan adeiladu cynllun tuag at ddyfodol cynaliadwy. Mae Suzanne wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i fynd i'r afael â heriau diwylliannol a heriau'r gweithlu, gan gryfhau partneriaethau a gweithio ar y cyd, a dod â ffocws cryfach ar ansawdd gofal drwy'r rhaglen Llunio ein Rhagoriaeth Ansawdd i’r Dyfodol. Mae hi wedi arwain nifer o raglenni meddygaeth fanwl cenedlaethol ac wedi cefnogi’n frwdfrydig y gwaith o sefydlu Partneriaid Iechyd Caerdydd, gan greu cyfrwng ar gyfer arloesi, ymchwil, dysgu a gwella iechyd y boblogaeth ar raddfa gyflymach.
“Mae gwerthoedd Suzanne – sydd wedi’u dylanwadu’n sylweddol gan ei gyrfa gynnar mewn nyrsio – wedi llunio’r ffordd y mae hi’n arwain, gan roi cydweithwyr, cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.”
“Byddaf yn gweithio’n agos gyda Suzanne, y Bwrdd a Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer trosglwyddiad llyfn.”
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr BIP Caerdydd a'r Fro: “Rwyf yn, ac yn parhau i fod, yn hynod ostyngedig a diolchgar am garedigrwydd, proffesiynoldeb ac ymrwymiad cydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae wedi bod yn fraint enfawr bod yn aelod o dîm BIP Caerdydd a'r Fro ac rwy'n teimlo balchder mawr yng ngwaith cydweithwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid ar draws y Bwrdd Iechyd, ac yn enwedig yn nifer y cyflawniadau a gwelliannau sydd wedi'u sicrhau trwy waith caled a phenderfyniad cynifer o bobl yn wyneb heriau sylweddol a pharhaus.
“Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod amrywiol, o ran y gwasanaethau y mae’n eu darparu, ei weithlu a’i boblogaeth. Yr amrywiaeth hon, ochr yn ochr â lefel uchel o arbenigedd a thosturi yw cryfderau'r sefydliad - bydd y rhain yn parhau i fod yn gonglfaen llwyddiannau a chynnydd yn y dyfodol wrth gyflawni’r uchelgeisiau a'r cyflawniadau rwy'n hyderus y byddant ar ddod. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl arwain a byddaf yn parhau â'm gwaith a'm ffocws tan i mi adael.
“Bydd gan BIP Caerdydd a’r Fro le arbennig yn fy nghalon bob amser, a byddaf yn colli cynhesrwydd a charedigrwydd pobl a diwylliant Cymru. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Cadeirydd Kirsty Williams, fy nghydweithwyr ar y Bwrdd a'r swyddogion gweithredol, a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol am eich cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn ystod fy nghyfnod yn y swydd. Diolch yn fawr i chi i gyd.”
Disgwylir i Suzanne ddechrau yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Iechyd Hampshire ac Ynys Wyth ym mis Medi 2026. Bydd rhagor o wybodaeth am drefniadau arwain yn y dyfodol yn cael ei rhannu maes o law.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.