30 Mehefin 2026
Am flynyddoedd, roedd gweithgareddau bob dydd, fel sgwrsio gyda ffrindiau neu fwynhau pryd o fwyd, yn her i Lorraine Nunney. Heddiw, diolch i ofal arloesol gan y Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae hi'n ôl yn siopa, yn cymdeithasu a hyd yn oed yn mynd ar wyliau.
Cafodd Lorraine Nunney ddiagnosis o Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) tua 13 mlynedd yn ôl. Mae Lorraine, sy'n byw yn yr Eglwys Newydd, wedi bod dan ofal y Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref, sydd wedi ymrwymo i roi cynnig ar ddulliau triniaeth newydd er budd bywydau eu cleifion.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae'r Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref wedi bod yn gweithio ar beilota peiriant anadlu ceg ymhlith poblogaeth cleifion COPD. Ar hyn o bryd, nid oes llawer o ganllawiau clinigol na phrofiad o'i ddefnyddio o fewn y grŵp cleifion hwn ac roedd Lorraine yn hapus i roi cynnig ar y cymorth anadlu ychwanegol hwn ac i rannu adborth gwerthfawr.
Mewn achosion o COPD, mae gan gleifion ysgyfaint heintiedig ac maent yn cadw carbon deuocsid yn eu gwaed. Yr unig ffordd i gael gwared ar y carbon deuocsid gormodol hwnnw yw gyda pheiriant anadlu.
“Mae peiriant anadlu safonol yn cynnwys snug, masg wedi'i ffitio a thiwb sy'n darparu cymorth o dan bwysau i helpu i chwyddo'r ysgyfaint ac anadlu CO2 allan,” eglura Chris.
“Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio eu masgiau anadlu dros nos i sicrhau eu bod ymlaen am ddigon o oriau, ond yn aml gall hyn amharu ar y diwrnod, a gall wneud bywyd bob dydd yn anodd.”
Gall gwisgo'r masg anadlu drwy gydol y dydd achosi anhawster wrth fwyta, yfed a bod yn gymdeithasol.
“Un peth rydyn ni wedi bod yn rhoi cynnig arni yw defnyddio peiriant anadlu ceg, yn lle masg.”
Defnyddir y peiriant anadlu ceg yn ysbeidiol drwy gydol y dydd ac mae'n golygu ei bod hi'n haws i gleifion fel Lorraine barhau â'i gweithgareddau o ddydd i ddydd, gan ei bod hi'n fwy symudol, yn llai blinedig ac yn fwy hyderus i adael y tŷ.
“Roeddwn i'n colli fy anadl wrth geisio cynnal sgwrs ac wrth fwyta,” eglura Lorraine, “ond nawr wrth ddefnyddio'r peiriant ceg yn ysbeidiol, does gen i ddim problem gyda hynny o gwbl.”
“Pan welsom Lorraine yn defnyddio'r peiriant ceg yn ystod y dydd, roedd yn teimlo fel ei bod hi'n fwy bywiog, yn fwy hyderus ac yn gallu gwneud pethau,” meddai Chris. “Mae'n ymwneud â rhyddhau cleifion o orfod defnyddio'r masg anadlu, ac rydym yn credu y gallai fod yn amhrisiadwy wrth edrych tua'r dyfodol.”
“Roeddwn i'n nerfus iawn ynglŷn â mynd i unrhyw le cyn cael y peiriant ceg, ond mae cael y peiriant newydd wedi bod yn fendith o ran fy ngalluogi i wneud pethau.”
Ers defnyddio peiriant anadlu ceg, mae Lorraine wedi cael yr hyder i wneud pethau yr oedd hi'n eu mwynhau o'r blaen, cyn ei diagnosis o COPD.
“Rwy'n mynd allan yn ystod y dydd, rwy'n mynd i siopa gyda ffrindiau ac i gael ciniawau. Mae hefyd wedi fy ngalluogi i fynd ar wyliau, rhywbeth na fyddwn i wedi'i wneud o'r blaen,” meddai.
Diolch i ddull gofal sy'n canolbwyntio ar y person gan y Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref, a'i ymdrechion i roi cynnig ar arferion newydd, llwyddodd Lorraine i fwynhau gwyliau mordaith yn ddiweddar, gyda llai o bryder ynghylch ei rheolaeth o COPD.
“Mae'r Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref yn dîm gwych, maen nhw'n wir heb eu hail,” meddai Lorraine.
Mae'r Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref wedi cyflwyno'r peiriant anadlu ceg yn llwyddiannus ymhlith cleifion COPD eraill o fewn y gwasanaeth ac maent yn casglu data gwerthfawr i'w fwydo'n ôl i'r rhwydwaith anadlol cenedlaethol.
Dywedodd Laura North, Nyrs Anadlol Arbenigol gyda'r Tîm Cymorth Anadlu yn y Cartref: “Mae gan y peiriant anadlu ceg y potensial i wella symptomau, ansawdd bywyd a chanlyniadau cleifion COPD sy'n dibynnu ar beiriannau anadlu. Rydym yn gyffrous i weld sut y gall effeithio ar ddefnydd a darpariaeth y gwasanaeth.”
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.