Heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Jason Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Natasha Goswell, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, yn cymryd y cyfle yn y fideo byr hwn i gydnabod a diolch i'r miloedd o nyrsys sy'n gofalu am gleifion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg bob dydd.
Dywedodd Jason Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, roeddwn i eisiau cymryd y cyfle i gydnabod a diolch i bob un ohonoch chi ar draws y sefydliad.
“Mae nyrsio yn fwy na phroffesiwn; mae'n rôl hollbwysig o ran diogelwch, gydag ymrwymiad i dosturi, rhagoriaeth a gofal diwyro i'n cleifion a'n cymunedau. Bob dydd, rydych chi'n llwyddo i ddangos sgil, gwydnwch a charedigrwydd eithriadol, yn aml yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.”
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gweld â'm llygaid fy hun y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud, y sicrwydd rydych chi'n ei roi, yr urddas rydych chi'n ei gynnal a'r gwaith tîm sy'n cadw ein gwasanaethau'n gryf. Rydym yn cydnabod eich ymroddiad ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.”
Dywedodd Natasha Goswell, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Rydym yn hynod falch o'r gwaith y mae nyrsys yn ei wneud bob dydd, gan ddarparu gofal tosturiol, cynnal safonau uchel o ran atal a rheoli heintiau, a chwilio am ffyrdd, mawr a bach, o wneud gwahaniaeth. Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud. Mae'n golygu'r byd i ni.”
Ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, mae nyrsys yn gofalu am gleifion yn eu cartrefi, mewn meddygfeydd teulu, mewn ysgolion, ar wardiau ysbytai, yn yr Uned Achosion Brys a chlinigau cleifion allanol. Mae nyrsys yn gweithio mewn gwahanol leoliadau ac arbenigeddau, ond maen nhw'n rhannu cymhelliant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ystyrlon i'r cleifion maen nhw'n gofalu amdanynt.
Isod gweler detholiad bach o nyrsys sy'n gweithio mewn lleoliadau llawfeddygol, yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn y gymuned ac ym maes iechyd meddwl, yn siarad am eu rôl a pham maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud.
Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys hapus! A diolch i Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro am gefnogi dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar draws y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.