Neidio i'r prif gynnwy

"Rwy'n cael fy nghefnogi ac mae pobl yn credu ynof" | Taith Project SEARCH Caroline hyd yn hyn

22 Ionawr 2026

Ymunodd Caroline, 18 oed, â Project SEARCH ym mis Medi 2025 i gael profiad mewn lleoliad gwaith ac i ddeall rhai o'r gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar gael iddi. 

Ers hynny, mae ei hyder a'i sgiliau wedi tyfu'n aruthrol gyda chefnogaeth ei mentoriaid Project SEARCH a'i chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd. 

Mae rhaglen Project SEARCH yn cynnig interniaethau â chymorth i bobl ifanc 16 – 24 oed sydd ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu. Mae interniaid yn cael y cyfle i gwblhau lleoliadau mewn gwahanol adrannau o'r Bwrdd Iechyd dros gyfnod y rhaglen, sy'n rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i gael swyddi â thâl ystyrlon.  

Mae'r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, Addewid Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc roi cynnig ar wahanol rolau a chwrdd â phobl newydd gyda'r gefnogaeth briodol ar waith. 

Roedd lleoliad cyntaf Caroline yn yr adran Arlwyo ar Wardiau, lle roedd hi'n gyfrifol am sicrhau bod bwyd ar y tymheredd cywir cyn ei weini, dosbarthu te a choffi, golchi llestri, cadw mannau cegin yn daclus, ac ymgysylltu â chleifion. Defnyddiodd Caroline feddalwedd rheoli gofal iechyd Synbiotix fel rhan o'i rôl hefyd, rhywbeth y mae hi'n arbennig o falch ohono. 

Roedd Caroline yn mwynhau delio â’r cleifion wyneb yn wyneb a gweithio ar y cyd fel rhan o'r tîm arlwyo ehangach. “Fy hoff ran oedd gweld y cleifion yn gwella wrth i’r dyddiau fynd heibio a bod yn rhan o’u taith” meddai.  

“Y peth rwy’n ei hoffi fwyaf am weithio fel rhan o Project SEARCH yn sicr yw cael fy annog i gamu allan o’m parth cysur, rwy’n cael fy nghefnogi ac mae pobl yn credu ynof, a does neb yn fy meirniadu am fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol” meddai hi. 

Mae’r Rheolwr Interniaethau â Chymorth yng Nghyngor Caerdydd, Amy Moreno-Grey, yn gweithio'n agos gydag interniaid Project SEARCH, ac mae eisoes wedi sylwi ar yr effaith gadarnhaol y mae'r profiad wedi'i chael ar Caroline. “Mae hyder Caroline wedi tyfu’n sylweddol ers dechrau’r rhaglen gyda ni ym mis Medi. 

“Mae wedi bod yn amlwg bod gan Caroline y gallu i gyflawni ac yn elwa ar arweiniad a chefnogaeth yn y gweithle i sicrhau ei bod yn gallu cyrraedd ei photensial. Gobeithiwn, wrth i’w lleoliadau barhau, y bydd ei hunanhyder yn parhau i dyfu.” 

 “Rwy’n edrych ymlaen at gamu y tu allan i’m parth cysur a rhoi cynnig ar adran a rôl na fyddwn wedi ystyried gweithio ynddi cyn ymuno â Project SEARCH. Rwy'n gobeithio datblygu set newydd o sgiliau wrth weithio yn yr adran hon.” 

Pob lwc i Caroline a'n holl interniaid Project SEARCH wrth iddyn nhw ymgartrefu yn eu hail leoliadau. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o gefnogi rhaglen Project SEARCH ac yn ffodus i groesawu interniaid i'n gweithlu, gan ddod â'u brwdfrydedd, eu hymroddiad a'u safbwyntiau ffres.  

I gael rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd eraill i bobl ifanc, ewch i’n tudalen profiad gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am DFN Project SEARCH, ewch i’w gwefan. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni