Neidio i'r prif gynnwy

Pwysau Sylweddol ein Huned Achosion Brysar - 5 Mai 2023

Wrth i ni nesáu at benwythnos Gŵyl y Banc, mae ein Huned Achosion Brys yn parhau i brofi lefelau uchel iawn o bwysau nas gwelwyd erioed o’r blaen, sy’n golygu bod cleifion yn wynebu amseroedd aros sylweddol i gael eu gweld gan aelod o dîm ein Huned Achosion Brys.

Rhan allweddol o hyn yw cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dod i’r uned gyda phroblemau hirsefydlog y gellir eu rheoli y tu allan i'r uned achosion brys a'r ysbyty. 

Gallwch helpu ein tîm trwy ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion fel y gall ein Huned Achosion Brys gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ofal brys. 

Os oes gennych bryder parhaus a all aros am apwyntiad meddyg teulu, gall eich fferyllfa gymunedol helpu drwy roi cyngor a meddyginiaeth dros y cownter i chi yn y cyfamser. 

Os ydych chi'n teimlo'n sâl ac yn ansicr o'ch symptomau ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru i gael cyngor GIG 111 Cymru - Gwirwyr Symptomau (wales.nhs.uk)

Eich meddyg teulu yw eich dewis sylfaenol ar gyfer cyflyrau hirdymor y mae angen eu hadolygu. 

Os credwch fod angen gofal brys arnoch, ffoniwch 111 yn gyntaf a bydd eich angen yn cael ei asesu, a chynigir slot amser i chi os yw'n briodol. 

Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth mwyaf priodol byddwch yn cefnogi ein timau i flaenoriaethu a gofalu am y cleifion mwyaf sâl sydd ein hangen fwyaf.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel dros benwythnos Gŵyl y Banc trwy glicio yma. 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni