Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs BIP Caerdydd a'r Fro yn ennill Medal Aur Ewropeaidd Dwbl wrth Godi Pŵer

21 Tachwedd 2025

Mae Uwch Nyrs Staff yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn dathlu ar ôl ennill dwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Codi Pŵer Ewrop ym Malta yn ddiweddar.

Gwnaeth Delyth Jones, sydd wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ers 21 mlynedd, yn gofalu am gleifion oedrannus ac oedolion eraill ar ward Dwyrain 6 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ennill medal aur unigol ac fel tîm ym Mhencampwriaethau Gwasg Fainc gydag Offer Ewrop ar 26 Medi.

Dechreuodd yr Uwch Nyrs Staff gymryd rhan yn y chwaraeon cryfder, sy'n cynnwys codi pwysau trwy gelaingodi (deadlifts), gwasg fainc a chyrcydu, ychydig flynyddoedd yn ôl yn 39 oed. "Roeddwn i'n chwilio am ffordd i wella fy ffitrwydd, adeiladu cryfder, a chefnogi fy lles," meddai Delyth. "Daeth yn angerdd go iawn yn gyflym. Roedd y strwythur, y ffocws a'r ymdeimlad o gyflawniad a roddodd yr hyfforddiant i mi wir yn apelio, ynghyd â'r gymuned gefnogol o fewn y gamp."

"Mae codi pŵer wedi dysgu gwersi amhrisiadwy i mi am ddyfalbarhad, disgyblaeth a chryfder meddyliol. Mae'r rhain yn rhinweddau sy'n adlewyrchu fy ngwaith fel nyrs. Mae'r un ffocws a phenderfyniad sy'n fy helpu i baratoi ar gyfer cystadlaethau hefyd yn fy helpu i beidio â chynhyrfu a pharhau i fod yn wydn a thosturiol mewn sefyllfaoedd heriol ar y ward."

Nid oedd cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, ennill teitlau mawr a gosod sawl record genedlaethol yn rhywbeth yr oedd Delyth yn dychmygu ei wneud i ddechrau. "Ond ar ôl i mi gamu ar y platfform, roeddwn i'n gaeth i'r teimlad," meddai. "Rhoddodd ymdeimlad o bwrpas a chymhelliant i mi sydd wedi trosglwyddo i bob rhan o fy mywyd."

Yn 2024, bu Delyth yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau'r Gymanwlad yn Ne Affrica, lle enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth M1 69kg Gwasg Fainc Clasurol. Yn 2025, daeth yn Bencampwr M1 69kg gydag Offer Prydain a Phencampwr M1 69kg Gwasg Fainc Clasurol Prydain.

Bu Delyth hefyd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Gwasg Fainc y Byd yn Norwy, gan ennill medal efydd, a medal aur fel tîm. Yn fwyaf diweddar enillodd fedal aur unigol ac fel tîm ym Mhencampwriaethau Gwasg Fainc gydag Offer Ewrop ym Malta ym mis Medi.

Yn ogystal â chystadlu, mae Delyth hefyd wedi cael y cyfle i hyfforddi tîm Codi Pŵer Cymru ar lefel ryngwladol ac wedi gosod dwy record yng Nghymru. "Rwy'n falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni hyd yma ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r anogaeth rydw i wedi'i dderbyn gan fy nghydweithwyr," meddai.

"Mae codi pŵer wedi dod yn rhan enfawr o bwy ydw i, gan fy helpu i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol. Rwy'n gobeithio y bydd fy nhaith yn ysbrydoli eraill i ddod o hyd i rywbeth sy'n eu grymuso i deimlo'n gryfach a sylweddoli nad yw hi byth yn rhy hwyr i wynebu her newydd."

Lluniau

Chwith: Delyth ym Mhencampwriaeth Gwasg Fainc gydag Offer Ewrop ym mis Medi gyda Richard Twycross Davies, Hyfforddwr Codi Pŵer gydag Offer Prydain
Canol: Seremoni Cyflwyno Medalau ym Mhencampwriaeth Gwasg Fainc gydag Offer y Byd yn Norwy
Dde: Delyth gyda'i chydweithwyr o ward Dwyrain 6, Ninfa Stevens a Siji Jomon

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni