19 Rhagfyr 2025
Wrth i flwyddyn arall ddod i ben, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF), Suzanne Rankin a Chadeirydd BIPCAF, Kirsty Williams, yn rhannu negeseuon Nadoligaidd yn diolch i gydweithwyr a rhanddeiliaid am eu gwydnwch a'u proffesiynoldeb ac yn cadarnhau ymrwymiad y sefydliad i wrando ar adborth staff a gwneud newidiadau ystyrlon yn 2026.
Er ei bod yn cydnabod nad yw 2025 wedi bod heb ei heriau, mae Suzanne yn myfyrio ar flwyddyn o gyflawniadau nodedig gan gynnwys cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth mewn gofal cleifion, arloesedd digidol, cynaliadwyedd y gweithlu a rhaglenni brechu.
Bu gwelliannau parhaus hefyd drwy’r Rhaglen Achredu Wardiau, datblygiadau mewn gofal brys ac argyfwng, a datblygiadau sylweddol mewn trawsnewid digidol a chamau cadarnhaol tuag at gynaliadwyedd, gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar draws yr ystad yn creu amgylcheddau mwy diogel a chyfforddus i gleifion wrth leihau ôl troed carbon y Bwrdd Iechyd.
Mae Kirsty yn myfyrio ar ei misoedd cyntaf fel Cadeirydd, gan ei disgrifio fel “braint cwrdd â chydweithwyr a phartneriaid ledled Caerdydd a Bro Morgannwg”, ac yn tynnu sylw at gryfder y cydweithio ag awdurdodau lleol, gofal sylfaenol, y sector gwirfoddol a chymunedol a’r gwasanaethau brys sy’n gweithio ar y cyd i wella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau a chefnogi pobl i aros yn iach yn eu cymunedau.
Gallwch wylio'r fideos isod.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.