01 Chwefror 2024
Mae mis Chwefror yn nodi Mis Hanes LHDT+ a'r thema eleni yw meddygaeth. Bydd y mis yn tynnu sylw at orffennol, presennol a dyfodol pobl LHDT+ ym maes meddygaeth, gan gynnwys y gwaith arloesol a wnaed gan bobl cwiar mewn hanes a'r anghydraddoldebau iechyd sy'n dal i'w hwynebu heddiw.
Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Fel rhan o'r gwaith o adnewyddu’r strategaeth Llunio Ein Llesiant i'r Dyfodol, rydym yn hyrwyddo ein diwylliant cynhwysol, lle bydd amrywiaeth y bobl yn y Bwrdd Iechyd yn cynrychioli poblogaethau lleol y Bwrdd Iechyd.
Mae pobl sy’n cael eu cefnogi i fyw'n iach, wedi'u galluogi gan amgylcheddau iach a chefnogol, yn allweddol i gyflawni gweledigaeth y Bwrdd Iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn sefyll yn gadarn i gefnogi cydweithwyr a chleifion LHDTC+ – yn ystod Mis Hanes LHDT+ a phob mis wedi hynny.
Wrth i ni ddathlu Mis Hanes LHDTC+, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn edrych yn fewnol ar ei amcanion cydraddoldeb strategol ac mae angen eich help arnom i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd eithriadol, hygyrch a chynhwysol i bawb.
Rydym yn ymrwymedig i weithredu ar ein rhwymedigaethau cymdeithasol, moesol a moesegol i hyrwyddo cyfle cyfartal a chanlyniad.
Rydym yn gofyn am adborth ar ein hamcanion cydraddoldeb strategol. Cymerwch ychydig o amser i lenwi ein harolwg heddiw.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.