Neidio i'r prif gynnwy

"Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod i'n cael fy ngweld ac nad oes neb yn gwahaniaethu yn fy erbyn am fod gen i anghenion dysgu ychwanegol" | Taith Project SEARCH Caz

18 Mehefin 2026

Ymunodd Caz, 18 oed, â Project SEARCH i gael profiad mewn lleoliad gwaith, i'w helpu i gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth. Ers ymuno, mae ei hyder wedi gwella'n aruthrol, ac mae hi wedi dod yn aelod gwerthfawr o dîm yr Ysbyty Deintyddol. 

I nodi Wythnos Anabledd Dysgu, rydym yn dathlu taith Caz drwy Project SEARCH a'r hyder y mae wedi'i fagu ar hyd y ffordd. 

Mae rhaglen Project SEARCH yn fenter bartneriaeth gyda Chyngor Dinas Caerdydd, Addewid Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r cynllun yn helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i gael profiad gwaith amhrisiadwy. Mae interniaid 16-19 oed yn cwblhau lleoliadau mewn amrywiaeth o adrannau ar draws y Bwrdd Iechyd, gan eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. 

Cwblhaodd Caz ei lleoliad cyntaf gydag Arlwyo ar Ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac ers hynny mae wedi cwblhau lleoliadau yn yr Adran Orthodontig a Deintyddiaeth Bediatrig yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. 

Pan ddechreuodd Caz ei lleoliad yn yr Ysbyty Deintyddol gyntaf, roedd hi'n brin o hyder ac yn teimlo'n swil o gwmpas cydweithwyr a chleifion. Dywedodd y Nyrs Ddeintyddol Rachel Yemm sydd wedi gweithio'n agos gyda Caz: “Roedd Caz yn swil iawn ar y dechrau ac os oedd hi’n teimlo dan bwysau byddai’n mynd i le diogel (fy swyddfa i). Dros y pythefnos cyntaf fe wnaeth hi hyn ychydig o weithiau, ond ar ôl iddi ymgartrefu yn yr adran, anaml y byddai hi'n defnyddio fy swyddfa i.” 

Wrth i Caz ​​ymgartrefu, cymerodd fwy o dasgau, ac mae’n chwarae rhan hanfodol bellach yng ngweithrediad dyddiol gwahanol glinigau deintyddol, gan gynnwys y clinigau myfyrwyr prysur. 

“Mae fy rôl yn cynnwys paratoi ffeiliau cleifion ar gyfer apwyntiadau, llungopïo ffurflenni i sicrhau bod digon, defnyddio’r System Rheoli Cleifion (PMS) i argraffu labeli cleifion, sicrhau bod ardaloedd clinigol yn lân ac yn daclus, ail-lenwi stoc, a glanhau’r powlenni alginad a’r sbatwlas deintyddol. “Rwyf hefyd yn ateb y ffôn brysbennu i gleifion ac yn galw cleifion i’w hapwyntiadau,” meddai Caz. 

“Mae Caz wedi bod yn gefnogaeth wych ar gyfer yr holl dasgau cefndirol sy’n cadw’r clinig i redeg yn esmwyth” meddai Rachel, “mae hi’n hapus ac yn gymwynasgar, yn frwdfrydig ac yn dod ag egni cadarnhaol i’r adran.”

 
 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni