Neidio i'r prif gynnwy

"Mae'n dod â'r gorau allan o bobl": Cipolwg ar y Cwtch yn Hafan y Coed

12 Mehefin 2026

Yn llawr isaf Hafan y Coed, gallwch ddod o hyd i'r ‘Cwtch’; lle i gleifion fod yn greadigol, meithrin cyfeillgarwch a dod o hyd i lawenydd y tu hwnt i amgylchedd y ward.


Mae'r Cwtch, sydd wedi'i leoli yn yr uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn cynnig lle croesawgar lle gall cleifion gymryd rhan mewn gweithgareddau, dysgu sgiliau newydd neu dreulio amser gydag eraill mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol.

Karen Jones, Nyrs Iechyd Meddwl, sy'n arwain y tîm bach, hapus sydd wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen amrywiol o weithgareddau i gleifion mewnol saith diwrnod yr wythnos.

Gyda phiano, ardal y gegin, gardd, bwrdd pŵl, pêl-droed bwrdd, bwrdd crefftau ac ardal ddarllen, mae'r Cwtch yn rhoi'r rhyddid i gleifion gymryd rhan mewn sesiynau strwythuredig neu ymlacio a sgwrsio.

Mae Karen wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ers 28 mlynedd, gan ddechrau fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd ac yna cymhwyso fel nyrs yn 2007. “Rydw i wedi bod eisiau gwneud y swydd hon ers 2011,” meddai, “oherwydd y gwahaniaeth y gall ei wneud i arhosiad claf yn yr ysbyty. Ac yn 2018 cefais secondiad i'r swydd. Bryd hynny dim ond ar gyfer y wardiau acíwt yr oedd gweithgareddau'n cael eu cynnal. Ond rwy'n ei weld fel rhan o uned Hafan y Coed yn ei chyfanrwydd, felly fe wnes i ei wneud yn agored i bawb.”

Bellach ar agor bob dydd rhwng 9.15am a 6.45pm, darperir y gwasanaeth gan dîm bach gyda phob aelod yn arwain ar wahanol weithgareddau drwy gydol yr wythnos.

I Sharon, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd sydd â 25 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, y sesiynau garddio yw ei ffocws. “Mae rhoi cyfle i gleifion ddod oddi ar y ward a chymryd rhan mewn sesiynau garddio yn therapiwtig iawn,” meddai. “Mae'n braf gallu gweld y cleifion wrth iddynt wella. Mae'n swydd mor hyfryd.”

Mae Libby, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, wedi gweithio yn Hafan y Coed ers pum mlynedd ond ymunodd â'r tîm Gweithgareddau Cleifion Mewnol ddeufis yn ôl yn unig. Gan ei bod hi'n gyn-driniwr gwallt, mae hi wedi dechrau cynnal salon gwallt bob dydd Mawrth. “Wrth weithio yma, rydych chi'n gweld ochr hollol wahanol i gleifion na welwch chi ar y wardiau,” meddai. “Mae gallu gwneud pethau maen nhw'n eu mwynhau yn dod â'r gorau allan o bobl.”

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau cerddoriaeth dan arweiniad yr athrawes ymweld Nuri, lle gall cleifion ddysgu chwarae'r piano, mwynhau sesiwn ganu neu hyd yn

oed droi eu myfyrdodau yn gân a'i recordio. Dywedodd Karen: “Mae cleifion sydd i weld yn amharod i ymuno yn y gerddoriaeth hyd yn oed yn dechrau ysgwyd tambwrîn neu ganu.”

Mae gweithgareddau eraill yn amrywio o gelf a chrefft, gwneud sebon a chadw dyddiaduron, i Tai Chi, gwyddbwyll, sesiynau ymlacio a grŵp harddwch. I'r rhai sy'n ffafrio rhywbeth mwy anffurfiol, mae opsiwn i chwarae pŵl, dartiau neu eistedd a sgwrsio.

“Gall cleifion roi cynnig ar rywbeth newydd neu greu rhywbeth i fywiogi eu hystafell,” meddai Karen. “Rwy'n hoffi gweld yr ochr gymdeithasol hefyd. Rydych chi'n gweld cyfeillgarwch rhwng cleifion yn dechrau ac yn datblygu.

“Gall fod yn ddiwrnod hir ar y ward. Os ydych chi mewn amgylchedd prysur, efallai y bydd cleifion yn encilio i'w hystafell wely, ar goll yn eu meddyliau a'u teimladau, a gall y diflastod ddechrau. Drwy ddod lawr llawr, mae'n ofod gwahanol. Gall fod yn llawer o hwyl. Pan fydd cleifion yn gadael yn gwenu, rwy'n teimlo ein bod wedi cyflawni rhywbeth.”

Mae cleifion yn cytuno, gan ddisgrifio'r Cwtch fel lle ag ‘awyrgylch hamddenol’, lle ‘creadigol a hwyliog’ a lle sy'n cynnig ‘rhyddid’.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni