Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i'n Graddedigion Project SEARCH

29 Gorffennaf 2026

Llongyfarchiadau i'n interniaid Project SEARCH, ar ôl iddynt raddio yn ddiweddar o'u rhaglen interniaeth a gefnogir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Ymunodd rheolwyr adrannau, mentoriaid a chydweithwyr y Bwrdd Iechyd â rhieni a gofalwyr yr interniaid i ddathlu popeth maen nhw wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae Project SEARCH yn rhaglen bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Addewid Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r cynllun yn helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i gael profiad gwaith gwerthfawr a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae interniaid 16 i 19 oed yn cwblhau lleoliadau ar draws amrywiaeth o adrannau'r Bwrdd Iechyd, gan eu paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. 

Cyflwynodd tîm Project SEARCH a chydweithwyr Gweithlu'r Bwrdd Iechyd dystysgrifau i interniaid i gydnabod eu gwaith caled a'u cyfraniadau i'r Bwrdd Iechyd drwy gydol eu hinterniaeth. Rhoddodd pedwar intern areithiau ysbrydoledig hefyd am yr effaith gadarnhaol y mae'r rhaglen wedi'i chael ar eu bywydau. 

"Roedd yn ddiwrnod emosiynol iawn i bawb ac yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r effaith enfawr y gall y rhaglen ei chael ar fywyd a dyfodol person ifanc," meddai Amy Moreno-Gray, Rheolwr y Gwasanaeth Interniaeth a Gefnogir yng Nghyngor Caerdydd. 

Bydd rhai o'r interniaid yn aros gyda'r Bwrdd Iechyd trwy gyfleoedd interniaeth pellach, tra bydd eraill yn cymryd y camau nesaf tuag at eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Diolch i'n holl interniaid, a chydweithwyr y Bwrdd Iechyd sydd wedi'u cefnogi, am eu hymroddiad a'u gwaith caled drwy gydol y flwyddyn. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni