26 Chwefror 2026
Gall menywod sy'n profi'r menopos a'r perimenopos sy'n byw yn Nwyrain Caerdydd bellach gael mynediad at gymorth wedi'i deilwra mewn clinig arbenigol newydd.
Mae Hyb Menopos Dwyrain Caerdydd, sydd wedi'i leoli yn yr Hyb Llesiant ym Maelfa, Llanedeyrn, yn wasanaeth newydd sydd wedi'i gynllunio i ddarparu cyngor, triniaeth a chymorth cymunedol sy'n canolbwyntio ar y claf i gyd mewn un lle.
Mae'r clinig yn cynnig gofal menopos strwythuredig gan glinigwyr profiadol, gan helpu cleifion i deimlo'n wybodus, wedi'u cefnogi ac yn hyderus wrth reoli eu symptomau.
Mae'r gwasanaeth ar gael i bob menyw rhwng 40 a 65 oed sydd wedi cofrestru gydag un o feddygfeydd teulu Clwstwr Dwyrain Caerdydd, gan gynnwys:
Gall cleifion sy'n mynychu Hyb Menopos Dwyrain Caerdydd ddisgwyl apwyntiadau gyda meddygon teulu sydd â phrofiad mewn gofal menopos, a bydd nyrsys practis yn cynnig cefnogaeth ychwanegol gan gynnwys gwiriadau pwysedd gwaed, cyngor ar ffordd o fyw, ac arweiniad ar therapi adfer hormonau (HRT).
Gellir cynnal yr ymgynghoriadau estynedig 20 munud wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar-lein, gan ganiatáu i gleifion drafod symptomau ac opsiynau triniaeth yn llawn.
Bydd Caffi Menopos, sydd ar agor i fenywod o unrhyw oedran, ar y safle hefyd, gan ddarparu lle croesawgar i gwrdd ag eraill, rhannu profiadau a gofyn cwestiynau. Bydd cleifion hefyd yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau Clwstwr Dwyrain Caerdydd eraill i sicrhau cefnogaeth gyfannol a pharhaus.
Dyma'r Hyb Iechyd Menywod cyntaf a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o Gynllun Iechyd Menywod Cymru, gyda disgwyl i'r hybiau hyn ehangu yn ystod 2026 a 2027.
Dywedodd Sheila Williams, Rheolwr Datblygu Prosiectau Clwstwr: “Hyd yn oed os yw eich symptomau’n teimlo’n ddryslyd neu’n llethol, mae’r clinig yma i wrando, eich cefnogi a’ch tywys yn ddiogel drwy’r menopos.
“Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael atgyfeiriad, cysylltwch â’ch meddygfa gofrestredig. Gallant ddarparu gwybodaeth a helpu gyda'r camau nesaf.”
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae gormod o fenywod yn teimlo nad oes neb yn eu cefnogi neu’n eu clywed wrth geisio cymorth ar gyfer symptomau’r menopos.
“Mae Hyb Menopos Dwyrain Caerdydd yn gam cadarnhaol iawn yn yr ymgyrch i ddod â gofal tosturiol o ansawdd uchel yn nes at y cartref, gydag apwyntiadau hirach ac arbenigedd sy'n canolbwyntio ar anghenion iechyd menywod.
“Drwy gyfuno gofal clinigol â chefnogaeth gymunedol, mae’r gwasanaeth hwn yn helpu menywod i deimlo’n wybodus, yn hyderus ac mewn rheolaeth o’u hiechyd. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad ehangach i leihau anghydraddoldebau iechyd.”
Mae hybiau tebyg sy'n benodol i iechyd menywod yn cael eu creu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru fel rhan o Gynllun Iechyd Menywod Cymru a gyhoeddwyd yn 2024. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn cau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwasanaethau iechyd gwell i fenywod, gan sicrhau eu bod yn cael eu clywed, a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu diwallu.
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Iechyd Menywod: “Bydd hybiau iechyd menywod yn ei gwneud hi’n haws i fenywod yng Nghymru gael gofal pan fydd ei angen arnynt a dod â’r gofal hwnnw’n nes at y cartref. Maent yn adlewyrchu'r amrywiaeth eang o ffyrdd y mae byrddau iechyd yn cyflawni'r briff o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau nad yw symptomau menywod yn cael eu diystyru.
“Wrth i’r hybiau braenaru, a’r gwasanaethau newydd sy’n gysylltiedig â nhw, gael eu cyflwyno, byddwn yn gwrando ar adborth menywod ac yn addasu i wneud yn siŵr ein bod yn adeiladu gwasanaeth iechyd sy’n diwallu anghenion menywod a merched, nawr ac am genedlaethau i ddod.”
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.