Mae’n Wythnos Nyrsio Ysgol am y tro cyntaf erioed yr wythnos hon, ac rydym yn falch o fod yn dathlu gwaith anhygoel ein Timau Nyrsio Ysgol ledled Caerdydd a'r Fro.
Drwy gydol yr wythnos, cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae Nyrsys Ysgol yn ei chwarae wrth gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd.
O hyrwyddo iechyd a llesiant i ddarparu imiwneiddiadau a darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar, mae Nyrsys Ysgol wrth wraidd ein cymunedau.
Ymweliad Kirsty Williams i arsylwi Adolygiadau Iechyd i Blant Ifanc yn yr Ysgol, yn Ysgol Gynradd Parc Ninian i weld ein Tîm Nyrsio Ysgol yn cynnal profion sgrinio taldra, pwysau a golwg ar blant oedran derbyn.
Gall nyrs ysgol gynnig cymorth a chefnogaeth ar gyfer ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
Lles emosiynol
Gwlychu yn ystod y dydd a’r nos
Baeddu
Bwyta’n iach
Ymddygiad
Cydberthnasau
Manylion cyswllt:
Tîm Nyrsio Ysgol y Dyffryn: 01446 704114
Tîm Nyrsio Ysgol Gorllewin Caerdydd: 02921832204
Tîm Nyrsio Ysgol Dwyrain Caerdydd: 02921833114
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.