|
4 Gorffennaf 2025 Mae disgwyl i Gaerdydd fod yn brysur y penwythnos hwn wrth i Oasis gychwyn eu taith yn Stadiwm Principality. |
|
Bydd yr holl ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau heddiw (dydd Gwener 4 Gorffennaf) ac yfory (dydd Sadwrn 5 Gorffennaf) o 3pm tan hanner nos. |
|
Disgwylir i'r M4 fod yn brysur iawn hefyd oherwydd nifer y cefnogwyr sy'n teithio i wylio'r cyngherddau ddydd Gwener a dydd Sadwrn. |
|
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich taith ymlaen llaw a’ch bod yn caniatáu digon o amser i deithio. |
|
Mwynhewch y cyngerdd drwy yfed digon o ddŵr, ac os ydych chi'n yfed alcohol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n yfed yn gyfrifol er mwyn osgoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau GIG. |
I wneud hyn, gallwch:
Helpwch ni i sicrhau y gall ein Huned Achosion Brys ddelio â'r rhai sydd wir ei hangen y penwythnos hwn drwy ddefnyddio ein gwasanaethau'n briodol a mynychu mewn argyfwng yn unig.
Dylai cleifion fynd i’r uned achosion brys os ydynt:
Mae gwybodaeth lawn am y ffyrdd sydd ar gau ar gael o wefan Cyngor Caerdydd: Gwybodaeth am deithio i ddigwyddiadau mawr.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.