Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Stopio yn lansio ap newydd am ddim i helpu pobl Cymru i roi'r gorau i ysmygu

Mae ap dwyieithog, rhad ac am ddim, seiliedig ar dystiolaeth wedi’i lansio i helpu ysmygwyr Cymru i roi’r gorau iddi. 

Mae Ap Helpa Fi i Stopio wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer ysmygwyr Cymru, ac mae’n cynnig cefnogaeth 24/7 i’r rhai sydd am roi’r gorau iddi.

Mae'r ap yn cynnig offer ymarferol, cefnogaeth ysgogol ac arweiniad wedi'i deilwra i helpu defnyddwyr i gynllunio eu taith at roi'r gorau i ysmygu ac i aros ar y trywydd iawn, ar gyflymder sy'n addas iddyn nhw.

Ysmygu sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau cynnar a salwch y gellir ei osgoi yng Nghymru. Er bod llawer o ysmygwyr yn ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn, mae nifer fawr yn gwneud heb gefnogaeth, gan ei gwneud yn anoddach iddyn nhw lwyddo.

Nod Ap Helpa Fi i Stopio yw cau'r bwlch hwn drwy gynnig cymorth digidol safonol i bobl ar unwaith, unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae'r ap yn cynnwys cynlluniau wedi'u personoli, offer newid ymddygiad, dulliau o dracio cyn�nydd, ac anogaeth i helpu pobl i ymdopi â’r ysfa am sigarét ac i oresgyn heriau.

I'r rhai sydd eisiau cymorth ychwanegol, mae'r ap hefyd yn bont amlwg at wasanaethau Helpa Fi i Stopio lleol, gan ei gwneud hi'n haws cael mynediad at gymorth strwythuredig pan fo angen.

Datblygwyd yr ap i fod yn ateb penodol i Gymru, ac mae’n cefnogi ac yn ategu’r gwasanaethau Helpa Fi i Stopio sydd eisoes yn bodoli. Mae hefyd yn adeiladu ar y sylfaen ddigidol o bobl sydd eisoes yn defnyddio’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio – mae miloedd yn ymweld â’r wefan bob mis.

Dyma rai o nodweddion allweddol yr Ap Helpa Fi i Stopio: 

  • Gallwch ei lawrlwytho a'i ddefnyddio am ddim
  • Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Offer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i’ch cefnogi i roi'r gorau i ysmygu.
  • Cynlluniau personol a chefnogaeth ysgogol
  • Dolenni uniongyrchol i wasanaethau Helpa Fi i Stopio am gymorth ychwanegol
  • Mynediad 24/7 i offer a chymorth yng nghledr eich llaw
  • Ar gael i unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed a hŷn 

Mae Ap Helpa Fi i Stopio bellach ar gael i'w lawrlwytho ar yr Apple App Store! Gallwch ei gyrchu'n uniongyrchol drwy'r ddolen ganlynol: ‎Helpa Fi i Stopio - HelpMeQuit App - App Store

Dechreuwch eich taith rhoi'r gorau iddi heddiw — lawrlwythwch yr ap a chymerwch y cam nesaf tuag at ddyfodol iachach heb fwg.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni