Uned dan Arweiniad Bydwragedd:
Statws presennol: Ar agor
Mae hyn yn cael ei adolygu’n ddyddiol.
Gwasanaethau geni yn y cartref:
Statws presennol: Ar agor
Mae hyn yn cael ei adolygu’n ddyddiol.
Ar ôl cyfnod o amser lle mae ein gwasanaeth geni cartref wedi'i atal oherwydd pwysau gweithredol eithafol, rydym yn falch o ailddechrau’r gwasanaeth hwn o ddydd Llun, 30 Ionawr 2023.
Mae'n bwysig nodi ein bod yn dal i brofi rhywfaint o brinder yn ein rhestrau staffio, a byddwn yn parhau i asesu gwasanaethau mamolaeth yn ddyddiol i sicrhau ein bod yn darparu'r gofal mwyaf diogel posibl. Os hoffech drafod cael genedigaeth gartref, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i deuluoedd Caerdydd a'r Fro am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth yn ystod cyfnod o anhawster mawr. I'r holl staff o fewn y gwasanaethau mamolaeth, diolch i chi am eich holl waith caled ac ymrwymiad parhaus, rydych yn mynd gam ymhellach bob dydd i ddarparu gofal o safon uchel.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.