Mae tîm Profiad y Claf wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn mewn cydweithrediad â Convo i gysylltu â'r Switsfwrdd, Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty'r Barri, ac Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gyda mwy o wasanaethau uniongyrchol i'w hychwanegu yn y dyfodol mewn dull graddol. Ymhen amser, gall defnyddwyr VRS ddisgwyl gweld codau QR ar draws safleoedd ein hysbytai i gysylltu'n uniongyrchol â Convo
Mae'n bwysig bod gwasanaethau gofal iechyd yn hygyrch i'r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol, a dyma un o'r camau rydym yn eu cymryd i greu amgylchedd mwy cyfartal a chynhwysol.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw ein trydydd iaith fwyaf poblogaidd ar gyfer dehongli. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael ar gyfer cymorth dehongli gan gynnwys wyneb yn wyneb, a gwasanaeth cymorth fideo a ffôn 24/7 i ddefnyddwyr BSL trwy ddyfeisiau ar olwynion o fewn y wardiau.
Rydym yn gyffrous i ddod â'r dechnoleg hon i'r Bwrdd Iechyd i ehangu ymhellach ein cynnig i'r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.
Dywedodd Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad y Claf: “Mae cyflwyno Gwasanaeth Cyfnewid Rhithwir yn gam pwysig yn y broses o weithredu Safonau Gwybodaeth Hygyrch Llywodraeth Cymru, gan sicrhau y gall pob claf gyfathrebu â ni’n hawdd ac yn hyderus.
“Drwy gynnig mynediad amser real at wasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain, rydym yn dileu rhwystrau ac yn creu profiad mwy cynhwysol a chyfartal ar draws ein hysbytai.
“Rydym yn falch o weithio gyda Convo i ehangu’r ffyrdd y gall cleifion b/Byddar gysylltu â’n timau, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion a chymunedau i ddeall sut y gallwn wella mynediad at ein gwasanaethau, a’r wybodaeth a ddarparwn.”
Mae'r Bwrdd Iechyd yn awyddus i hyrwyddo mwy o hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod i staff a pharhau i weithio gyda'r gymuned leol a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain i wella profiadau ein cleifion.
Hoffai tîm Profiad y Claf i'r prosiect hwn ddatblygu dros amser gyda chymorth adborth cleifion ac maent yn awyddus i glywed gan ddefnyddwyr gwasanaeth am eu profiad.
Os hoffech chi ddweud wrthym am eich profiad gyda gwasanaeth cyfnewid rhithwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, anfonwch e-bost at Pe.Cav@wales.nhs.uk.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.