Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

9 Tachwedd 2023

“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn sefyllfa well diolch i ymdrechion cydweithredol cydweithwyr a sefydliadau partner, ac yn bwysig iawn, cefnogaeth y cyhoedd. O ganlyniad, mae'r Bwrdd Iechyd wedi gostwng lefel y rhybudd o Ddigwyddiad Parhad Busnes i Lefel 4 (pwysau eithafol) sy'n effeithiol heddiw (9 Tachwedd 2023). Bydd y sefyllfa'n parhau i gael ei hasesu'n rheolaidd, ond mae cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i gynnal y sefydlogrwydd hwn yn yr hirdymor.

Ar ran y Bwrdd Iechyd, hoffem ddiolch o galon ac yn ddiffuant i gydweithwyr sydd wedi cyd-dynnu a chefnogi ei gilydd i gymryd camau cyflym i gefnogi ein cleifion. Mae'r dyfalbarhad a'r diwydrwydd a ddangoswyd wedi bod yn wirioneddol ryfeddol.

Bu gostyngiad yn nifer y cleifion yn yr Uned Achosion Brys, gan felly leddfu'r pwysau ar gydweithwyr a rhyddhau capasiti i ni drin y cleifion mwyaf sâl sydd angen triniaeth frys ar unwaith.

Gan ddefnyddio modelu data a’r hyn a wyddom yn hanesyddol am bwysau gweithredol tymhorol, rhagwelwn y gallai’r ffigurau amrywio wrth inni nesáu at gyfnod y gaeaf lle mae tymereddau oerach yn arwain at fwy o achosion o faglu, cwympo a damweiniau; yn enwedig ymhlith y rhai 65+ oed yn y gymuned lle mae nifer yr achosion o eiddilwch yn fwy.

Gall unrhyw un sy’n pryderu, gan gynnwys anwyliaid neu ofalwyr gael mynediad at apwyntiadau wyneb yn wyneb yn y gymuned, dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. I wneud apwyntiad, ffoniwch 02921 832552 neu e-bostiwch staysteady.cardiff@wales.nhs.uk.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i apelio ymhellach i’r cyhoedd i barhau i’n helpu ni i’ch helpu chi, trwy ddewis gwasanaethau’n briodol a defnyddio gwasanaethau brys dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol.

Os nad yw eich cyflwr yn bygwth bywyd a’ch bod yn teimlo’n sâl neu’n ansicr o’ch symptomau ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru am gefnogaeth bellach. Fel arall, ffoniwch 111 lle bydd eich cyflwr yn cael ei asesu a chynigir amser apwyntiad i chi (lle bo angen).

Eich meddyg teulu yw eich Dewis Sylfaenol ar gyfer cyflyrau meddygol hirdymor y mae angen eu hadolygu. Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf. Gall eich fferyllfa gymunedol hefyd helpu gyda meddyginiaeth a chyngor dros y cownter.

Nodiadau golygyddol:

Sylwch, y derminoleg swyddogol a ffeithiol gywir a ddefnyddir i gyfeirio at statws rhybudd 'lefel 5' yn genedlaethol yng Nghymru yw 'Digwyddiad Parhad Busnes' sydd wedi'i gam-adrodd gan rai cyfryngau sydd wedi tynnu sylw at y cyfeiriad a ddefnyddir gan GIG Lloegr.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni