Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch fwy am ofalu'n ddiogel am eich plentyn neu fabi | Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd

15 Medi 2025

Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal digwyddiadau galw heibio i rieni a gofalwyr, gan gynnig cyngor gofal iechyd proffesiynol ar ofal diogel i blant a babanod.

Thema Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2025 yw 'diogelwch cleifion o'r cychwyn cyntaf' gan ganolbwyntio ar ofal diogel i bob newydd-anedig a phlentyn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn pwysleisio'r angen i weithredu'n gynnar ac yn gyson i atal niwed drwy gydol plentyndod, er mwyn diogelu dyfodol iach.

Ar Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, ddydd Mercher 17 Medi, mae cydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal digwyddiadau i rannu gwybodaeth a chyngor gofal iechyd pwysig i rieni a gofalwyr plant a babanod.

Bydd cydweithwyr y Bwrdd Iechyd yn cynnal digwyddiad galw heibio yng nghyntedd Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, gan gynnig cyngor ar fwyta a choginio'n iach, cadw'n egnïol, iechyd deintyddol, imiwneiddio plant a diogelwch meddyginiaethau i blant. Bydd yna hefyd amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i blant a'u teuluoedd gymryd rhan ynddynt.

Yng Nghlinig Cynenedigol Ysbyty Athrofaol Cymru, bydd cydweithwyr yn cynnig cyngor ar sut i gadw'n iach yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, bwydo ar y fron, rheoleiddio thermol ar gyfer babanod a bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd. Bydd y tîm rhoi’r gorau i smygu hefyd yn bresennol i gynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n rhoi’r gorau i smygu neu’n ystyried rhoi’r gorau iddi, a bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal ar gyfer darpar rieni.

Bydd y ddau ddigwyddiad yn rhedeg o 11.00-13.00 ddydd Mercher 17 Medi ac nid oes angen trefnu lle na chofrestru ymlaen llaw.

Os hoffech ddarllen mwy am gadw plentyn yn eich gofal yn ddiogel, lansiwyd canllaw newydd yn gynharach eleni i helpu rhieni a gofalwyr i deimlo'n fwy hyderus wrth ofalu am blentyn sy'n sâl a gwybod ble i fynd am gymorth.

Mae’r llyfryn Salwch Plentyndod Cyffredin yn llyfryn rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, sy’n llawn cyngor syml ac ymarferol. Mae ar gael mewn 10 iaith gymunedol i helpu cymaint o deuluoedd â phosibl i gael mynediad at gyngor iechyd dibynadwy mewn iaith maen nhw'n ei deall.

Mae'r llyfryn yn esbonio sut y gellir delio ag afiechydon plentyndod cyffredin fel peswch, annwyd, twymyn a brech gartref a phryd y dylai rhieni geisio cyngor gan fferyllfa gymunedol, meddyg teulu, GIG 111 Cymru neu'r Uned Achosion Brys.

Mae hefyd yn ymdrin â phynciau pwysig gan gynnwys cysgu’n ddiogel, lles emosiynol ac ymddygiad heriol a gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau lleol a all gynnig cefnogaeth.

Mae'r adnodd ar gael yn: Cymraeg, Saesneg, Albaneg, Amhareg, Arabeg, Dari, Ffarsi, Cwrdeg, Pashto a Tigrinya. I lawrlwytho'r daflen, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/cardiff-and-vale-health-inclusion-service/common-childhood-illness/

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni