Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Gŵyl Dewi 2026

01 Mawrth 2026

Fel nawddsant Cymru, dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i ni i gyd fyfyrio ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymry ac i ddathlu hanes, iaith a diwylliant Cymru.

Mae cydweithwyr ar draws y sefydliad wedi bod yn dweud wrthym beth mae'r diwrnod yn ei olygu iddyn nhw. Soniodd nifer am atgofion melys o'r Eisteddfod ysgol, gwisgo dillad traddodiadol a bwyta pice ar y maen.

Dywedodd Tracey Pugh o'r tîm Iechyd Meddwl: “Mae un o fy hoff atgofion o Ddydd Gŵyl Dewi yn dod o'r ysgol. Byddem ni bob amser yn treulio hanner diwrnod yn nodi'r dathliad, ac roedd y bore yn llawn cystadlaethau'r Eisteddfod a gwobrau am greu crefftau â thema Gymreig. Roeddwn i wrth fy modd yn gwisgo fy ngwisg Gymreig gyda balchder i anrhydeddu Dewi Sant a theimlo'n rhan o'r traddodiad.”

Mae'r rhai a oedd yn byw y tu allan i Gymru fel plant yn dal yn awyddus i gymryd rhan. Dywedodd un cydweithiwr wrthym am ei brofiad yn canu gyda BBC Now wedi'i amgylchynu gan gennin Pedr ac yn dysgu geiriau caneuon Cymraeg.

Clywsom gan ddysgwr Cymraeg yn y Bwrdd Iechyd: “Cefais fy magu yn Lloegr, ond rydw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers ychydig dros flwyddyn. Does gen i ddim traddodiadau eto, ond hoffwn i greu rhai. Dw i wrth fy modd yn cymryd rhan yn niwylliant Cymru.”

Dywedodd y rhan fwyaf o gydweithwyr wrthym eu bod wrth eu bodd yn nodi Dydd Gŵyl Dewi fel cyfle i ddathlu eu treftadaeth, eu diwylliant a'u traddodiadau Cymreig.

Dywedodd Molly Freeman, Swyddog Banc Staff Meddygol a Deintyddol: “Mae'r diwrnod yn gwneud i mi deimlo'n wladgarol ac yn falch o fod yn Gymraes!”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn sefydliad Cymreig balch a bydd cydweithwyr wrth eu bodd yn dathlu drwy chwifio croes Dewi Sant y tu allan i ysbytai a chynnig bwydlen arbennig yn Y Gegin, Ysbyty Athrofaol Cymru, ar y diwrnod.

Ein nod yw creu amgylchedd sy'n annog ac yn hybu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn y Bwrdd Iechyd er mwyn i'n cleifion Cymraeg eu hiaith, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg, deimlo'n gartrefol.

Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau Dydd Gŵyl Dewi, sut bynnag maen nhw'n dewis dathlu.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni