25 Mehefin 2026
Cafodd mwy na 30 o fenywod coil atal cenhedlu wedi'i osod mewn clinig penwythnos arbennig a gynhaliwyd yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gan helpu i wella mynediad at ddulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor (LARC) a lleihau amseroedd aros i gleifion.
Roedd clinig ‘Larcathon’, a ddarparwyd gan glinigwyr profiadol o wasanaethau iechyd rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cynnig apwyntiadau ychwanegol y tu allan i'r wythnos waith draddodiadol, gan roi mwy o hyblygrwydd i fenywod sy'n chwilio am ofal atal cenhedlu.
Mae coil atal cenhedlu yn fath hynod effeithiol o ddull atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor sy'n cael ei osod yn y groth a gall atal beichiogrwydd am sawl blwyddyn. Gellir hefyd ei dynnu ar unrhyw adeg os yw unigolyn yn dymuno beichiogi neu newid ei dull atal cenhedlu.
Dywedodd Helen Bayliss, Meddyg Ymgynghorol mewn Iechyd Rhywiol Integredig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Roedden ni wrth ein bodd gyda'r ymateb i'n clinig Larcathon dros y penwythnos, a alluogodd mwy na 30 o fenywod i gael coil atal cenhedlu wedi'i osod mewn un diwrnod.
“Gall darparu apwyntiadau y tu allan i oriau gwaith arferol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a allai gael trafferth mynychu fel arall. Mae mentrau fel hyn yn helpu i wella mynediad at atal cenhedlu, yn rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i fenywod, ac yn cefnogi ein hymdrechion i leihau amseroedd aros am wasanaethau iechyd rhywiol.”
Canolbwyntiodd y clinig ar osod coiliau atal cenhedlu yn unig ac mae'n rhan o waith parhaus i wella mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.