Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Strôc y Byd: Gwybod yr arwyddion i gymryd y Cam N.E.S.A.

28 Hydref 2025

Mae’n Ddiwrnod Strôc y Byd ddydd Mercher 29 Hydref ac mae'r tîm yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn annog pobl i fod yn ymwybodol o arwyddion strôc er mwyn iddynt allu cymryd y Cam N.E.S.A.


Os gwelwch chi un o'r arwyddion hyn o strôc peidiwch ag oedi – ffoniwch 999.

  • Nam ar yr wyneb - a yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?   
  • Estyn - ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno?   
  • Siarad - ydyn nhw’n siarad yn aneglur?   
  • Amser - hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, ffoniwch 999. 

Ar hyn o bryd mae tua 9,000 o bobl, 1.74% o'r boblogaeth, sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg wedi cael strôc.

Mae pob munud yn bwysig gyda strôc. Gall derbyn gofal brys yn gyflym wella'r siawns o oroesi a galluogi triniaethau sy'n gwella'r siawns o wella'n llwyr.

Mae strôc yn 'drawiad ar yr ymennydd', sy’n digwydd pan fydd tarfu ar y cyflenwad gwaed i'r ymennydd. Mae'n argyfwng meddygol sydd angen sylw ar unwaith. Mae adnabod arwyddion strôc a ffonio 999 am ambiwlans yn hanfodol. Y cynharaf y bydd rhywun sy'n cael strôc yn cael sylw meddygol brys, gorau oll fydd eu siawns o wella'n dda.

Mae'r acronym N.E.S.A (Nam ar yr wyneb, Estyn, Siarad, Amser) yn ffordd gofiadwy o nodi arwyddion mwyaf cyffredin strôc ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu'n gyflym drwy ffonio 999.

Llun: Caroline, Jane, Ben, Livinus o'r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni